Pam teithio'r byd... ar gefn beic?

  • Cyhoeddwyd
Pedr CharlesworthFfynhonnell y llun, Pedr Charlesworth

Ers bron i ddwy flynedd bellach, mae Pedr Charlesworth wedi bod yn seiclo o amgylch y byd.

Er yn wreiddiol o Sir Buckingham, mae ei fam, Annwyl, yn hanu o Lambed - yn ferch i deulu'r ymgymerwyr angladdau adnabyddus yn y dref, Gwilym C Price, ei Fab a'i Ferched.

Gadawodd Pedr ei gartref ym Mryste ddechrau Ionawr 2018, gyda'r bwriad o feicio i Sydney, ond penderfynodd ei fod eisiau gweld hyd yn oed mwy o'r byd, a pharhau â'r daith.

Cafodd Cymru Fyw sgwrs gydag ef i'w holi am rai o'i straeon, a holi'r cwestiwn pwysicaf: pam?!

Ffynhonnell y llun, Pedr Charlesworth
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad gwreiddiol Pedr oedd beicio o Lundain i Sydney, ond roedd yn awyddus i fynd ymhellach

Pam penderfynu mynd i feicio o amgylch y byd?

Pan mae pobl yn gofyn y cwestiwn yna i mi, dwi bob amser yn ymateb yr un ffordd - pam ddim?! Pam ddim mynd o amgylch y byd? Dim jest y lleoedd mawr, ond y lleoedd sydd rhwng y smotiau ar y map.

Gweld sut mae'r bobl leol go iawn yn byw, byw gyda nhw, ymuno â nhw am baned, cwrw, pryd o fwyd, ramadan, gwasanaethau crefyddol, diwali.

Gweld sut mae'r tirwedd a'r bobl yn newid yn raddol o fryniau Gwlad Belg i fynyddoedd yr Alpau, o wastatir anialwch Kazakhstan i gopaon uchel yr Himalaya a Hindu Kush. Sgwrsio â phobl o Afghanistan dros y ffin tra'n seiclo yn Tajikistan, a gweld sut beth yw'r sêr yng ngwyllt Awstralia.

Dwi wedi gwneud hyn a mwy.

Pryd ges ti'r syniad i deithio dramor ar dy feic?

Cefais fy magu ar straeon amser gwely am anturiaethau gwallgo' teulu Dad yn dringo'r Alpau, Pyrenees a'r Cairngorms, a byddai fy mam-gu yn mynd ar deithiau i'r Himalayas yn hwyr yn ei 70au!

Roedd gen i chwant am fy straeon fy hun.

Ffynhonnell y llun, Pedr Charlesworth
Disgrifiad o’r llun,

Ymunodd Peter, tad Pedr, ar y daith am chwech wythnos. Dyma'r ddau yn croesi Khunjerab Pass, ffin uchaf y byd, sydd rhwng Pakistan a China

Un diwrnod 'nes i glywed dau fyfyriwr yn trafod taith feics un yn Norwy. 'Deg diwrnod o seiclo arfordir Norwy'. 'Gwyliau rhad iawn'. 'Mae Sgandinafia'n grêt achos mae'n gyfreithlon i wersylla unrhywle.'

Dyna'r cwbl o'n i angen. Ar ôl taith gymharol fer o Gotherburg yn ôl adref, 'nes i syrthio mewn cariad â cycle touring.

I ble'r wyt ti wedi teithio?

Roedd egwyddor y daith yma yn syml - seiclo pob rhan o dir o'n i'n gallu.

Ffynhonnell y llun, Pedr Charlesworth
Disgrifiad o’r llun,

Pedr yn barod amdani ar ddechrau'r daith ym mis Ionawr 2018

Seiclais i Dover i ddal y fferi i Dunkirk, ac o fan'na, reidiais dros yr Ardennes, picio i Alpau'r Swistir cyn wythnosau rhewllyd -20°C ar draws dwyrain Ewrop i Istanbul.

Dechreuodd hi gynhesu pan es i ar draws Twrci, y Caucasus a draw i Baku. Gan mod i'n Brydeiniwr, do'n i methu cael fisa Iran na Rwsia felly ges i fferi cargo ar draws Môr Caspia i Kazakhstan gyda seiclwyr eraill o'n i wedi cwrdd â nhw ar y ffordd.

Aeth ffisegwr o Sbaen, Pol, a fi ar draws anialwch Kazakhstan gyda'n gilydd, yn treulio wythnosau yn reidio mewn tymheredd yn y 40°au isel. Croeson ni Uzbekistan gyda'n gilydd cyn ffarwelio, a reidiais weddill y Ffordd Sidan drwy Tajikistan, Kyrgyzstan ac i mewn i China.

Ffynhonnell y llun, Pedr Charlesworth
Disgrifiad o’r llun,

Amser i Pedr a Pol ffarwelio yn Uzbekistan, ar ôl profiadau gwych yn cyd-seiclo

Piciais i Pakistan, yna India, Nepal a Myanmar. Reidiais lŵp pum mis o amgylch de-ddwyrain Asia, i lawr i Singapore, cyn croesi Awstralia (o Perth i Sydney) a lan hyd Seland Newydd.

Nawr, dwi'n Ecuador, yn reidio'r Andes, gan mod i'n bwriadu cwblhau'r cymal olaf ond un o Lima i Efrog Newydd. Ar ôl hynny, bydda i'n reidio i lawr y DU, yn ôl i lle ddechreuodd y cyfan.

Beth yw rhai o'r troeon trwstan rwyt ti wedi eu profi?

Roedd cael plismyn yn rhedeg ar fy ôl yn China, deffro gyda dynion tu allan i'r llofft gyda shotguns yn Pakistan a'r fyddin yn fy nhaflu fi mas o India bendant yn frawychus!

Ffynhonnell y llun, Pedr Charlesworth
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd Pedr y tirlithriad yma yn digwydd ar hyd y ffordd o'i flaen yn Vietnam

Ges i hefyd dîm o dwyllwyr yn trio bod yn ffrindiau 'da fi yn India, ac wedyn trio nghael i mewn trwbl gyda pharsel llawn contraband. Byddwn i wedi wynebu tair blynedd o garchar petawn i wedi mynd i ôl y parsel o 'emwaith' o'r swyddfa bost iddyn nhw...

Yn ddiddorol, digwyddodd y peth mwyaf peryglus i mi mewn ardal ariannog yn Awstralia. Ges i'n nal mewn storm, a ges i ganiatâd y perchnogion i wersylla mewn garej betrol fach.

Yn ystod y nos, 'nes i glywed beth oedd yn swnio fel damwain car a dod mas i weld pump dyn mewn masgiau, gyda batiau pêl-fas yn dwyn o'r til yn y siop. 'Nes i lwyddo i guddio tu ôl i crates llaeth, a 'naethon nhw ddim fy ngweld i.

Ble yw dy hoff a chas leoedd?

'Na i ddechrau â'r un hawdd. Y lle 'nes i ei hoffi leiaf oedd China.

Seiclais drwy dalaith Xinjiang yng ngorllewin China, lle sydd yn agosach at Baghdad na Beijing. Mae'r bobl leol yn Fwslemaidd ac yn siarad iaith sy'n agosach at iaith Twrci na iaith China.

Maen nhw eisiau bod yn annibynnol o China, sydd wedi achosi i lywodraeth China leihau eu rhyddid. Mae ganddyn nhw systemau adnabod wynebau ym mhob man a meicroffonau yn gwrando mewn mannau cyhoeddus.

Ffynhonnell y llun, Pedr Charlesworth
Disgrifiad o’r llun,

"Dydych chi byth yn unig yn China pan mae'r heddlu yn eich dilyn..."

Mae pobl ofn siarad â chi, ac roedd yr heddlu yn fy nilyn lle bynnag o'n i'n mynd - seiren ymlaen, yn gyrru 10mya tu ôl i fi drwy'r dydd. Gymron nhw ein ffonau a laptop.

Treulion ni (Dad a fi) nosweithiau yn cuddio mewn cloddiau wrth iddyn nhw chwilio amdanon ni, oedd ddim yn hwyl!

Mae fy hoff le yn llawer anoddach.

Un lle a fy synodd o ran haelioni a phrydferthwch oedd Pakistan. Y ffordd sy'n stretshio drwy Karakoram, Hindu Kush a'r Himalayas - o'r enw Karakoram Highway - yw'r ffordd brydferthaf dwi erioed wedi ei gweld.

Roedd y bobl leol mor gyfeillgar, a 'nath un dieithryn brynu esgidiau arian, sgleiniog i mi, gan ei fod eisiau dangos i mi fod y wlad yn llawn pobl caredig!

Ffynhonnell y llun, Pedr Charlesworth
Disgrifiad o’r llun,

Pedr yn mwynhau Peru: "Mae reidio'r Andes fel parc chwarae i unrhyw seiclwr ac yn 'must-do' os ydych chi eisiau reidio rhai o lwybrau gorau'r byd"

O ran y seiclo, Peru sydd wedi bod orau. Dyma wlad lle galli di seiclo ar yr un ffordd o'r môr i uchder o 5000m heb fynd i lawr rhiw o gwbl.

Ychwanegwch at hynny fwyd anhygoel, ac arferiad y bobl leol i ddechrau canu a dawnsio unrhyw foment, ac fe gallwch ddeall pam ei fod yn 'mecca' i reidwyr beic.

Beth wyt ti wedi ei ddysgu o dy daith?

O mhrofiad i, mae'r byd yn lle llawer mwy caredig na rydyn ni'n ei ddychmygu.

Cyn y daith yma, do'n i methu dychmygu cnocio ar ddrws ffrynt yn gofyn i gael campio yng ngardd rhywun, ond dwi bellach yn ei wneud drwy'r amser, gyda gwên ar fy wyneb, a drwyddo, dwi wedi gwneud ffrindiau dwi dal mewn cysylltiad â nhw.

Ffynhonnell y llun, Pedr Charlesworth
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl cael cysgu mewn mosg ym Malaysia dros nos yn ystod Ramadan, cyfle i gael paned gyda Shafie ac Imam cyn iddi wawrio

Dwi hefyd wedi dod i 'nabod fy hun yn dda iawn dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae masg y person ti eisiau'i bortreadu yn llithro'n sydyn iawn pan ti'n sownd yn y jyngl, wedi torri dy feic am y trydydd tro y diwrnod yna...

Dwi wedi cryfhau cyfeillgarwch â ffrindiau, a dwi'n neilltuo amser i gael sgwrs gall gyda nhw, ar alwad fideo.

Mae hyn wir yn fy nghadw i'n iach yn feddyliol - mae'n anhygoel sut mae clywed am rywun yn cwyno am y Tube yn dy gysuro pan ti newydd orfod rhedeg i ffwrdd oddi wrth eliffant!

Ffynhonnell y llun, Pedr Charlesworth

Hefyd o ddiddordeb: