Enwau Cân y Babis 2019
- Cyhoeddwyd
Cafodd 219 babi bach newydd y fraint o gael eu henwi yng Nghân y Babis ar BBC Radio Cymru 2 yn 2019.
Ers bron i ddwy flynedd bellach, mae Caryl Parry Jones yn canu i fabis newydd Cymru (a thu hwnt, mewn ambell i achos) bob mis ar y Sioe Frecwast.
Ond pa enwau oedd y rhai mwyaf poblogaidd yn y caneuon dros y 12 mis diwethaf?
Enwau merched (a'r nifer)
Alys (5)
Efa (5)
Ela / Ella (5)
Cara (4)
Nel (4)
Anni / Ani (4)
Bella (3)
Nansi (3)
Sara (3)
Cêt (2)
Eila (2)
Elain (2)
Gwenlli (2)
Mared (2)
Martha (2)
Medi (2)
Sophia / Sofia (2)
Cafodd 106 o ferched bach eu henwi yn y caneuon yn 2019. Roedd 54 ohonyn nhw yn enwau a ymddangosodd ar y rhestr unwaith yn unig, fel Dorothea, Eos, Madlen ac Ola.
Enwau bechgyn (a'r nifer)
Elis (5)
Ifan (4)
Tomos (4)
Gruffudd/Gruffydd (3)
Nedw (3)
Osian (3)
Owen (3)
Sion (3)
Twm (3)
Cai/Kai (3)
Alffi (2)
Arthur (2)
Cynan (2)
Dafi (2)
Eban (2)
Gruff (2)
Guto (2)
Gwilym (2)
Harri (2)
Ioan (2)
Jac (2)
Noa (2)
Robin (2)
Steffan (2)
Tomi (2)
Ynyr (2)
Ymddangosodd 113 bachgen newydd yng nghaneuon Caryl y flwyddyn ddiwethaf. Roedd y 47 enw arall ar y rhestr, oedd ond i'w gweld unwaith, yn cynnwys yr enwau Bedo, Celt, Iori a Samson.
Ydych chi eisiau cael enw eich babi chi mewn cân? E-bostiwch sioefrecwast@bbc.co.uk
Hefyd o ddiddordeb: