Y Cymro wnaeth ddadlygru Caersallog wedi achos Novichok
- Cyhoeddwyd
Roedd cael gwared ar nwy nerfau angheuol yng Nghaersallog "yn orchwyl na allai fethu" yn ôl y Cymro 48 oed oedd yn gyfrifol am ddadlygru'r ddinas.
Cafodd cyn-ysbïwr Rwsiaidd, Sergei Skripal, a'i ferch, Yulia, eu targedu gan ymosodiad Novichok ym Mawrth 2018.
Y Grŵp-gapten Jason Davies, o Benarlâg, Sir Y Fflint wnaeth arwain ymateb y Tasglu Cemegol, Biolegol, Radiolegol a Niwclear.
Dywedodd y swyddog Awyrlu iddo gael "sioc" o glywed bod y nwy wedi'i ddefnyddio yn y DU.
Dros 10 mis fe gydlynodd ymdrechion 120 o swyddogion - 60 o'r Awyrlu a 60 o gorfflu arbenigol yr Awyrlu - gyda chymorth y fyddin a'r heddlu. Cafodd OBE am ei ran yn y gwaith.
"Cafodd fy uned ei sefydlu i wneud y math yma o waith, ond ar draws y byd ac fel arfer ar faes y gad," meddai.
"I hynny ddigwydd yng nghanol Caersallog, a chael gwybod y byddech chi ar ddyletswydd mewn dinas rydych chi wedi ymweld fel twrist, roedd hynny'n anarferol."
Cafodd swyddog Heddlu Wiltshire, y Ditectif Sarjant Nick Bailey, hefyd ei wenwyno wrth fynd i gartref y teulu Skripal.
Fe wnaeth y tri oroesi'r ymosodiad, ond bu farw dynes 44 oed, Dawn Sturgess, mewn ysbyty fisoedd yn ddiweddarach ar ôl dod i gysylltiad â photel persawr y mae'r awdurdodau'n credu gafodd ei ddefnyddio fel rhan o'r ymosodiad.
Mae Llywodraeth y DU wedi pwyntio'r bys at Rwsia dros yr achos, ond mae awdurdodau yno'n gwadu cyfrifoldeb.
"Roedd arwain y tasglu yng Nghaersallog yn her ond yn her ffantastig," meddai'r Grŵp-gapten Davies, ddechreuodd ei yrfa 30 mlynedd yn ôl gyda'r Corfflu Hyfforddiant Awyr ym Mhenarlâg.
"Fe darodd hwn i'r byw pa mor bwysig oedd o i'r Deyrnas Unedig - roedd o wirioneddol yn orchwyl na allai fethu."
Dywedodd bod dadlygru 12 lleoliad gwahanol yn "her wahanol iawn" oedd angen "technegau gwreiddiol".
Roedd adeiladau fel tafarndai ag amrywiaeth o arwynebau, oedd yn golygu bod Novichok yn glynu mewn ffyrdd gwahanol ac o'r herwydd roedd angen "dulliau dadlygru lluosog" ym mron pob safle.
Hefyd bu'n rhaid gwneud llawer o'r gwaith gyda'r nos.
"Doedden ni ddim eisiau pobl yn ein gwylio oherwydd byddai'n cynyddu'r ddirnadaeth o berygl ymhlith pobl leol, ond roedden ni hefyd yn ymwybodol bod llygaid y byd arnom ni," meddai.