Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-1 Blackburn Rovers

  • Cyhoeddwyd
Andre Ayew'n dathlu ar ôl sgorioFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Andre Ayew'n dathlu ar ôl sgorio

Andre Ayew wnaeth sicrhau pwynt i Abertawe yn erbyn Blackburn Rovers mewn gêm a welodd y ddau dîm i lawr i 10 dyn.

Daeth goliau'r gêm o fewn y 10 munud cyntaf.

Cyn-chwaraewr, Danny Graham a rwydodd yn gyntaf, wedi pedair munud, gydag ergyd droed dde o ganol y cwrt cosbi i waelod y gornel dde.

Chwe munud yn ddiweddarach, sgoriodd Ayew gyda pheniad o gic gornel i'w gwneud hi'n gyfartal.

Fe allai Ayew wedi gallu sgorio dwy yn rhagor yn y cyfnod dilynol wrth i Abertawe gael y gorau o'r ornest, ac roedd yna gyfle i George Byers hefyd ond 1-1 oedd y sgôr wedi'r hanner cyntaf.

Wedi 57 o funudau roedd Abertawe i lawr i 10 dyn wedi i dacl gwael gan Tom Carroll arwain at ail gerdyn melyn i'r chwaraewr canol cae.

Ond 10 munud yn ddiweddarach roedd y gwrthwynebwyr hefyd un chwaraewr yn brin wedi i Bradley Dack weld cerdyn melyn am yr eildro.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Abertawe, ar ôl methu ag ennill mewn chwe gêm, yn aros yn yr 11eg safle gyda 31 o bwyntiau.