Y Bencampwriaeth: Brentford 2-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Daeth rhediad Caerdydd o fuddugoliaethau yn y Bencampwriaeth ers penodi'r rheolwr newydd, Neil Harris i ben nos Fercher wrth golli oddi cartref yn erbyn Brentford.
Roedd yna ddechrau digon rhwystredig i'r Adar Gleision, a bu'n rhaid i Junior Hoilett adael y cae wedi anaf gyda Josh Murphy'n dod ymlaen yn ei le.
Wedi 25 munud o chwarae roedd Bryan Mbeumo wedi rhoi Brentford ar y blaen gyda'i seithfed gôl o'r tymor, gan fanteisio ar amddiffyn llac Caerdydd i daro'r bêl dan y golwr, Neil Etheridge.
Daeth y tîm cartref yn agos at ymestyn y fantais ychydig cyn yr egwyl wrth i Etheridge atal ergyd Said Benrahma ar draws y gôl.
Aeth pethau o ddrwg i waeth ar ddechrau'r ail hanner wedi i Joe Bennett ildio cic gornel a arweiniodd at beniad gan Ollie Watkins i roi Brentford 2-0 ar y blaen.
Ond fe lwyddodd yr Adar Gleision i daro'n ôl wedi cic rydd effeithiol ar ôl 64 o funudau.
Marlon Pack wnaeth sgorio gydag ergyd droed dde o ymyl y cwrt cosbi, ac roedd y gôl yn amlwg yn hwb i hyder y tîm wrth iddyn nhw geisio unioni'r sgôr.
Ond doedd dim goliau pellach, ac wrth adael yn waglaw mae Caerdydd yn llithro un i nawfed safle'r tabl.