Cwpan Her Ewrop: Pau 34-29 Gleision
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd y Gleision i sicrhau dau bwynt bonws er gwaethaf colli eu gornest oddi cartref yn erbyn Pau yng Nghwpan Her Ewrop brynhawn Sadwrn.
Yr ymwelwyr o Gymru aeth ar y blaen diolch i gais Owen Lane, ond erbyn yr egwyl roedd y tîm cartref ymhell ar y blaen diolch i geisiau Mahamed Boughanmi, Geoffrey Moise, Pierre Nueno a Bastien Pourailly.
Parhau i reoli'r ornest wnaeth Pau yn yr ail hanner, gyda Baptiste Pesenti yn ychwanegu pumed cais.
Ond yna fe frwydrodd y Gleision yn ôl, gyda'r eilydd Hallam Amos yn croesi cyn i Lane sgorio dwy gais arall a sicrhau hat-tric i'w hun.
Llwydodd y ddau dîm gyda chiciau cosb hwyr, gan olygu bod y Gleision yn casglu'r ddau bwynt bonws oedd eu hangen arnynt i gadw'u gobeithion yn y grŵp yn fyw.
Mae'n rhaid iddyn nhw ennill eu dwy gêm olaf - yn erbyn Caerlŷr a Calvisano - a gobeithio nad yw Caerlŷr yn ennill yn Pau os ydyn nhw am fynd drwyddo i'r rownd nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2019