Cwpan Her Ewrop: Dreigiau 25-16 Caerwrangon

  • Cyhoeddwyd
Roedd cael Cory Hill yn chwarae eto yn gryn hwb i'r DreigiauFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cael Cory Hill yn chwarae eto yn gryn hwb i'r Dreigiau

Fe wnaeth cicio cywir Sam Davies sicrhau buddugoliaeth yn y glaw i'r Dreigiau yn erbyn Caerwrangon nos Wener.

Roedd yna ddechrau calonogol i'r tîm cartref yng Nghasnewydd wrth i Adam Warren sgorio cais yn y munudau cyntaf ac roedd cicio Sam Davies hefyd yn gywir.

O fewn munudau roedd Sam Davies drwy ddwy gic gosb wedi cynyddu sgôr y Dreigiau i 13-0.

Ond erbyn yr hanner roedd yr ymwelwyr wedi sicrhau 9 pwynt drwy giciau cosb.

Yr ymwelwyr oedd â'r afael drechaf ar ddechrau'r ail hanner wedi i Brok Harris o'r Dreigiau gael cerdyn melyn ac fe roddodd cais a throsiad llwyddiannus Gaerwrangon ar y blaen (13-16).

Ond er y tywydd erchyll doedd dim pall ar gicio celfydd Sam Davies ac wedi pedair cic gosb arall roedd y sgôr terfynol yn 25-16.

Doedd ryfedd mai seren y gêm oedd Sam Davies.