Halifax 4-0 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Dean Keates

Roedd y rheolwr Dean Keates wedi gwneud ambell newid i'w dîm ar gyfer y daith i Halifax gydag un lygad ar gemau i ddod yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr.

O ystyried y flaenoriaeth yna, efallai nad oedd Keats yn hyderus o fuddugoliaeth, ond fe fydd natur y golled yn siom iddo.

Hanner cyntaf digon distaw oedd hi heblaw am un gôl i'r tîm cartref wedi dim ond wyth munud.

Ond wedi'r egwyl y trodd pethau'n sur i Wrecsam.

Jack Redshaw ddyblodd y fantais i Halifax wedi 47 munud, ond cyn hir fe gafodd Wrecsam gyfle gwych i ddod yn ôl wrth iddyn nhw ennill cic o'r smotyn.

Er hynny fe gafodd cynnig JJ Hooper ei arbed o'r smotyn, a chyn pen dim roedd hi'n 3-0 y pen arall.

Redshaw gafodd ei ail wedi 58 munud.

Tri munud yn ddiweddarach ac roedd Wrecsam i lawr i 10 dyn wrth i Leighton McIntosh weld y cerdyn coch am dacl wael.

Fe ychwanegodd Williams y bedwaredd yn hwyr i'r tîm cartref yn hwyr yn y gêm.