Leeds United 3-3 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
BielsaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rheolwr Leeds, Marcelo Bielsa, wedi'i syfrdanu gan y canlyniad

Dyw clwb pêl-droed Caerdydd yn dal ond wedi ennill unwaith oddi cartref y tymor hwn, ond fe fydd y pwynt yn Elland Road yn teimlo fel buddugoliaeth.

Roedd dechrau'r gêm yn ofnadwy i'r Adar Gleision, ac roedden nhw ddwy ar ei hôl hi wedi dim ond wyth munud.

Fe sgoriodd Helder Costa wedi chwe munud gyda Patrick Bamford yn ychwanegu'r ail cwta dau funud yn ddiweddarach.

Yn wir ni chafodd Caerdydd yr un ergyd at y gôl yn yr hanner cyntaf.

Aeth pethau'n waeth yn fuan wedi'r egwyl wrth i'r golwr Neil Etheridge faglu Bamford ac ildio cic o'r smotyn - fe gododd Bamford a rhwydo o'r smotyn.

Fe ddaeth cysur i dîm Neil Harris. Camgymeriad gan y golwr roddodd gyfle i Lee Tomlin, ac fe gododd y bêl i gornel y rhwyd i gau mymryn ar y bwlch.

Ond roedd sioc go iawn ar y gweill pan sgoriodd Caerdydd ail.

Sean Morrison beniodd i'r rhwyd wedi 82 munud, ac yn sydyn roedd amddiffyn Leeds yn edrych yn nerfus.

Ond prin fod Morrison wedi gorffen dathlu pan welodd gerdyn coch am dacl wael.

Roedd hi'n ymddangos fod gobeithio Caerdydd ar ben, ond er syndod i bawb yn Elland Road fe sgoriodd Robert Glatzel un arall i unioni'r sgôr wedi 88 munud.

Er i Leeds bwyso'n galed yn y munudau olaf, fe ddaliodd Caerdydd eu gafael am bwynt hynod annisgwyl.