Angen i'r Ceidwadwyr 'ad-dalu ffydd' pobl y gogledd

  • Cyhoeddwyd
David Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae David Jones yn AS Ceidwadol ac yn gyn-Ysgrifennydd Cymru

Mae AS Ceidwadol blaenllaw yng Nghymru wedi dweud bod angen i'r blaid "ad-dalu'r ffydd" gafodd ei ddangos ynddyn nhw gan etholwyr yng ngogledd Cymru.

Llwyddodd y blaid i gipio pum sedd newydd yn y gogledd yn yr etholiad cyffredinol, yn ogystal â Phen-y-bont yn y de, i gyd oddi wrth y blaid Lafur.

Dywedodd David Jones fod hynny oherwydd bod "cryn dipyn o anniddigrwydd" am nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cyflawni er lles pobl.

Ychwanegodd AS Gorllewin Clwyd y dylai'r gronfa o arian fydd yn cymryd lle grantiau o'r Undeb Ewropeaidd gael ei rheoli o San Steffan yn hytrach na Bae Caerdydd.

Ond dywedodd cyn-arweinydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Wigley y byddai hynny'n golygu na fyddai prosiectau Cymreig yn cael eu cefnogi.

'Cyfeiriad gwahanol'

Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement ar BBC Radio Wales, dywedodd Mr Jones fod pleidleiswyr Llafur traddodiadol wedi cefnu ar y blaid.

"Ges i fy magu yn Rhosllannerchrugog yng ngogledd Cymru, oedd yn gymuned pyllau glo cryf," meddai cyn-Ysgrifennydd Cymru.

"Byddai wedi bod yn anhygoel yn fy ieuenctid i ddychmygu unrhyw un oni bai am Lafur yn cynrychioli'r etholaeth yn y Senedd."

Ychwanegodd bod dirywiad y cymunedau glo hynny, a diffyg sylw'r llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd i faterion yn y gogledd, wedi magu drwgdeimlad.

"Mewn cyd-destun Cymreig nawr, mae Llafur yn blaid ar gyfer de Cymru ac mae gweddill y wlad wrth gwrs wedi mynd i gyfeiriad hollol wahanol," meddai.

"Mae gogledd Cymru wedi rhoi ei ffydd yn y blaid Geidwadol yn yr etholiad yma, ac mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n ad-dalu'r ffydd yna."

Ffynhonnell y llun, Tŷ'r Cyffredin
Disgrifiad o’r llun,

Mynnodd Anna McMorrin na fyddai'r ASau Ceidwadol newydd "yno ar gyfer yr etholwyr" pan fyddan nhw angen cymorth

Wrth siarad am yr arian fydd yn cael ei ddosbarthu i wahanol rannau o'r DU ar ôl Brexit, dywedodd David Jones y dylai gael ei roi'n syth i gynghorau lleol yn hytrach na mynd i Lywodraeth Cymru, sydd ar hyn o bryd yn delio â grantiau Ewropeaidd.

Ond cwestiynu hynny wnaeth yr Arglwydd Wigley gan ddweud: "Eu blaenoriaethau nhw fydd y rhai sydd yn eu siwtio nhw o ystyried y DU gyfan, nid beth sy'n siwtio pobl Cymru."

'Bai Corbyn nid y polisïau'

Rhybuddiodd yr Athro Roger Awan-Scully o Brifysgol Caerdydd bod etholwyr yn fwy cyfnewidiol nac erioed, ac y gallen nhw'n hawdd droi i ffwrdd o'r Ceidwadwyr eto os nad oedden nhw'n cyflawni eu haddewidion.

Ond dywedodd Anna McMorrin, un o'r unig ASau Llafur yng Nghymru i gynyddu ei mwyafrif, fod angen trawsnewid y blaid yn llwyr a symud oddi wrth sosialaeth Jeremy Corbyn.

"Yn y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi colli pobl dda a synhwyrol o'r blaid Lafur - dwi'n gobeithio nawr y byddan nhw'n dychwelyd," meddai AS Gogledd Caerdydd.

"Dwi'n gobeithio nawr y byddan nhw'n gweld bod 'na ddyfodol allwn ni ei adeiladu a'i gynnig i bobl, ond fe fydd hynny'n cymryd amser."

Ychwanegodd AS Llafur Canol Caerdydd, Jo Stevens mai arweinyddiaeth y blaid ac nid eu polisïau oedd ar fai am eu methiant yn yr etholiad.

"Roedd rhai o'n polisïau ni'n boblogaidd iawn ond doedden ni methu dod dros y rhwystr yna o bobl yn dweud na allen nhw gefnogi'r arweinyddiaeth yma," meddai ar raglen Sunday Politics Wales.

"Felly doedden ni methu mynd ymlaen i drafod y polisiau yna ac ennill mwy o'r dadleuon hynny."