Dyn yn cyfaddef twyll $7.8m wedi ymchwiliad FBI

  • Cyhoeddwyd
Michael KinaneFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Michael Kinane wedi honni bod yn gyfarwyddwr cwmni Shell yn achos un o'r troseddau

Mae dyn 41 oed o Wynedd wedi cyfaddef bod yn rhan o gynllwyn i gael $7.8m trwy dwyll ac ailgylchu arian yn anghyfreithlon.

Mae barnwr yn Llys y Goron Caernarfon wedi rhybuddio Michael Kinane ei fod yn wynebu cyfnod hir o garchar am droseddau a gafodd eu cyflawni gyda pherson neu bersonau anhysbys.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa nes ei wrandawiad dedfrydu ar 24 Ionawr.

Mae'r achos yn ganlyniad ymchwiliad twyll difrifol gan yr FBI a'r heddlu yn y DU.

Cafodd Kinane ei arestio ym mis Awst gan dditectifs Heddlu Gogledd Cymru ym maes awyr Gatwick ar ôl hedfan i'r DU o Dwrci.

Dywed y llu bod achos twyll e-byst busnes wedi ei gyfeirio atyn nhw fis Tachwedd y llynedd gan wasanaeth Action Fraud.

Roedd y troseddwyr wedi targedu cwmnïau sydd wedi eu lleoli yn y DU a'r Unol Daleithiau.

Casglu tystiolaeth yn yr UDA

Plediodd Kinane yn euog hefyd i dri chyhuddiad o dwyll mewn cysylltiad â chytundebau hurbrynu cerbydau.

Mewn un achos wrth hurbrynu Range Rover fe honnodd ei fod yn gyfarwyddwr gyda chwmni Shell.

"Cafodd yr ymchwiliad cymhleth yma gefnogaeth drwyddi draw gan nifer o asiantaethau gweithredu'r gyfraith yn Ewrop ac yn wir ar draws y byd," meddai'r Ditectif Sarjant Arwel Hughes, a arweiniodd yr ymchwiliad.

"O ganlyniad i'r cefnogaeth o bwys gan swyddfa'r Attaché Cyfreithiol yn Llysgenhadaeth yr UDA yn Llundain a'r FBI yn Boston, Massachusetts a San Francisco, Califfornia, cafodd tystiolaeth sylweddol ei chasglu yn yr Unol Daleithiau."

Dywedodd aelod arall o'r ymchwiliad, y Ditectif Gwnstabl David Rock, ei bod hi'n "glir bod unrhyw gwmni neu berson yn agored i dwyll, waeth pa mor gadarn mae eu trefniadau'n ymddangos".

Roedd y cwmnïau a gafodd eu targedu wedi gweithredu mewn modd "moesol", meddai, trwy ddod â'r twyll i'w sylw ar y cyfle cyntaf - cam wnaeth sicrhau bod modd i un o'r busnesau adfeddiannu tua $1.6m yn syth.

Ychwanegodd bod y cydweithio rhyngwladol o ganlyniad i'r ymchwiliad wedi arwain at ganfod "arian pellach sylweddol" ar draws y byd.