Rob Howley yn ymddiheuro yn dilyn ei waharddiad 18 mis

  • Cyhoeddwyd
Jon Davies a Rob HowleyFfynhonnell y llun, Dan Mullan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jonathan Davies (chwith) yn un o'r rhai i roi geirda i'r panel disgyblu ar ran Howley (dde)

Mae cyn-hyfforddwr olwyr tîm rygbi Cymru, Rob Howley wedi ymddiheuro yn dilyn ei waharddiad o'r gamp am dorri rheolau betio.

Cafodd Howley ei wahardd am 18 mis - naw mis wedi eu gohirio - gan banel annibynnol ddydd Llun yn dilyn ymchwiliad gan Undeb Rygbi Cymru (URC).

Dywed y panel iddo osod 363 o fetiau ar gyfanswm o 1,163 o gemau rhwng 14 Tachwedd 2015 a 7 Medi 2019.

Mewn datganiad ddydd Mawrth, fe ymddiheurodd Howley i'r "gymuned rygbi, fy nghydweithwyr agos ac uwchben popeth arall, fy nheulu".

Dychwelyd i'r gamp

Dywedodd yn y datganiad: "Rwy'n ddyn preifat iawn, ac yn anffodus, [betio] oedd yn fy nghadw i'n dawel wrth i mi frwydro'r bwganod yn dilyn marwolaeth drasig fy chwaer.

"Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd, a bydd cymorth parhaus yn fy ngalluogi i ddilyn y llwybr iawn [yn ôl] i rygbi, sydd wastad wedi bod fy angerdd gwirioneddol.

"Rwy'n eithriadol o ddiolchgar i'r ffydd a'r gefnogaeth rwy' wedi'i dderbyn gan bawb sy'n agos i mi."

Yn ei ddatganiad, fe gyfeiriodd Howley bobl at nifer o ganfyddiadau yn yr ymchwiliad oedd yn canmol ei gyfaddefiad cynnar, ei edifeirwch, a'r ffaith nad oedd "unrhyw awgrym o anonestrwydd neu gamddefnydd cyfrinachol o wybodaeth".

Cafodd Howley ei anfon adref o Japan lai nag wythnos cyn gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd ym mis Medi yn dilyn honiadau ei fod wedi torri rheolau betio'r corff rygbi rhyngwladol.

Clywodd y panel yng Nghaerdydd fod Howley, 49, wedi defnyddio ffôn a roddwyd iddo gan URC neu ei gyfrif e-bost gwaith i osod y betiau.

Bydd y gwaharddiad yn dod i ben ar 16 Mehefin 2020.