All apiau ffôn ddisodli dysgu mewn ystafell ddosbarth?
- Cyhoeddwyd
A all apiau ddisodli'r ystafell ddosbarth fel y modd gorau o ddysgu iaith newydd, neu hyd yn oed adfywio rhai o'r ieithoedd lleiafrifol?
Erbyn hyn mae apiau yn rhoi cyfle i ieithoedd lleiafrifol gyrraedd cynulleidfaoedd y tu hwnt i'w ffiniau traddodiadol.
Dywed dysgwyr eu bod yn gallu mynd ar eu cyflymder eu hunain, a does dim rhaid ymrwymo i fod ar gael ar yr un pryd bob wythnos.
Mae rhai yn cynnig cwisiau neu opsiwn i ailadrodd geiriau ac ymadroddion er mwyn hybu dysgu, tra bod gan eraill raglenni cyflawn gydag arweiniad tiwtoriaid a'r cyfle i gyfathrebu â siaradwyr brodorol.
Ond mae rhai'n ofni y gallai'r dulliau hyn arwain at ddiffyg dealltwriaeth o ramadeg yn ogystal â cholli amgylchedd yr ystafell ddosbarth lle byddai cefnogaeth ar lafar.
Yn ôl Guy Baron, Pennaeth Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Aberystwyth, dylid defnyddio apiau ochr yn ochr â dulliau ystafell ddosbarth traddodiadol - nid fel ffurf sy'n eithrio addysgu traddodiadol.
I Amy Jo Price, athrawes o Alabama yn UDA, mae apiau iaith wedi dod yn rhan o'i threfn foreol.
Mae hi'n defnyddio dau ap gwahanol - Duolingo ar gyfer y Gymraeg a Mango ar gyfer Gaeleg - er mwyn anrhydeddu gwreiddiau ei chyndeidiau yng Nghymru a'r Alban.
"Rwy'n mewngofnodi yr un amser bob bore wrth yfed fy nhe a bwyta brecwast," meddai.
"Rwyf wedi gwneud cysylltiadau ar wahanol dudalennau Facebook ac yn ei gwneud yn bwynt i drafod yr ieithoedd ac ymarfer gyda nhw."
Dywedodd Eugenia Iglesias, sy'n byw ym Mhatagonia, ei bod yn anodd dysgu trwy ap - felly mae'n mynychu dosbarthiadau hefyd.
"Weithiau mae ychydig yn anodd oherwydd rydych chi'n colli llawer o strwythurau gramadeg. Mae'n rhaid i chi ddysgu drwy ailadrodd brawddegau.
"Rwy'n gwneud y ddau, dosbarthiadau ac apiau, er mwyn cael dealltwriaeth ehangach o'r Gymraeg."
Pa ieithoedd mae pobl yn eu dewis?
Gall pobl ymuno heb lawer o gost, os o gwbl, a dysgu ar eu cyflymder eu hunain cyn mynd ar wyliau neu ddigwyddiad - cyn Cwpan Rygbi'r Byd 2019, Japaneaidd oedd yr ap mwyaf poblogaidd ymhlith Cymry ar ap Busuu.
Yn gyffredinol, Sbaeneg yw un o'r ieithoedd mwyaf poblogaidd ymhlith dysgwyr y DU - ar-lein ac all-lein - ac fe'i hystyrir yn un o'r ieithoedd symlach i siaradwyr Saesneg ei ddysgu.
Ar Babbel, mae 43% o ddysgwyr o Gymru yn dysgu Sbaeneg, mae tua 28% o 450,000 o ddefnyddwyr Busuu wedi'u cofrestru i ddysgu Sbaeneg, ac mae'r iaith yn denu 25% o ddysgwyr ap Duolingo.
Ers lansio cwrs Cymraeg ar Duolingo yn 2016, mae mwy na 1.2m o bobl ledled y byd wedi dechrau dysgu'r iaith - gan oddiweddyd Chineaidd a Phortiwgaleg.
Mae'r galw am gwrs Japaneaidd wedi cynyddu 52% eleni, ac fe gafodd yr iaith ei briodoli gan y datblygwyr oherwydd dyfodiad Cwpan Rygbi'r Byd a bod Gemau Olympaidd yr Haf yn Tokyo y flwyddyn nesaf.
Yw pobl yn parhau i fod yn llawn cymhelliant?
Ar ap Memrise, mae 16,500 o bobl wedi cofrestru i ddysgu Cymraeg - ond roedd yr amser cyfartalog maen nhw'n glynu wrth y cwrs fesul sesiwn yn llai nag awr (52 munud), o'i gymharu â dim ond 646 yn dysgu Cernyweg lle roedd yr amser ymgysylltu ar gyfartaledd yn dair awr.
"Yn draddodiadol un o'r rhwystrau mwyaf sy'n wynebu dysgwyr iaith yw cymhelliant," meddai cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Busuu, Bernhard Niesner.
"Yn y pendraw, yr hyn rydyn ni wedi'i ddarganfod yw bod cysylltiad agos rhwng parhau gyda'r dysgu a nod neu uchelgais unigolyn.
"Er enghraifft, os yw rhywun yn dysgu am waith, addysg, neu resymau teuluol, maen nhw'n tueddu i gadw at ddysgu iaith yn llawer hirach na rhywun sy'n dysgu oherwydd eu bod yn mynd ar eu gwyliau neu am hwyl."
Ychwanegodd fod "cynnydd enfawr" fel arfer mewn defnyddwyr newydd ar ddechrau mis Ionawr, yn bennaf oherwydd addunedau blwyddyn newydd
"Hefyd, mae cyfnodau o gynnydd llai, ond amlwg, ar ddechrau a diwedd yr haf - sydd â chysylltiad agos â theithio haf a dysgwyr yn dychwelyd i addysg."
Beth yw barn y dysgwyr?
Mae Alex Levinson, sy'n wreiddiol o'r Unol Daleithiau ond yn byw yn Llundain, yn dysgu Esperanto a'r Gymraeg trwy ap.
"Rwy'n cofio un diwrnod roeddwn i'n edrych trwy'r ieithoedd oedd gan Duolingo ac fel roeddwn i'n edrych, des i ar draws Esperanto," meddai.
"Roeddwn i'n meddwl bod yr enw'n swnio'n ddiddorol felly mi wnes i edrych arno a dysgu popeth am sut y bwriadwyd iddi fod yn iaith ryngwladol, gan fod y crëwr yn credu y gallai gwrthdaro rhwng gwledydd fod wedi cael ei drin yn well pe na bai rhwystr iaith, a chreodd Esperanto fel y byddai'n hawdd i bobl ddysgu, waeth beth yw eu hiaith frodorol.
Mae Milla Leskinen, o'r Ffindir, yn defnyddio apiau i ddysgu Cymraeg, Almaeneg, Eidaleg, Lladin, Swedeg a Karelian - perthynas agosaf ei hiaith frodorol Ffinneg.
"Mae fy nheulu ymhlith y boblogaeth oedd yn siarad Karelian a symudodd o'r ardaloedd a gollodd y Ffindir i'r Undeb Sofietaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd," meddai.
Dywedodd Milla, 33, mai dysgu trwy ap oedd yr unig ffordd gredadwy, oherwydd oriau gwaith hir ac ymrwymiadau eraill.
"O leiaf rwy'n gallu ymarfer y Gymraeg a'r lleill yn ddyddiol, ond anfantais yw fy mod i'n colli cyfleoedd i ryngweithio ag eraill sy'n siarad Cymraeg a chael gafael go iawn ar ramadeg fel y byddai'n cael ei gyflwyno i ni mewn dosbarthiadau traddodiadol."
Mae Lianne Wilson, sy'n Gernyweg ac yn byw yng Nghaerdydd, yn dysgu Cymraeg a Chernyweg.
"Rydw i wedi bod yn angerddol erioed am hunaniaeth a diwylliant Cernyw... pan oeddwn i'n tyfu i fyny, ni chafodd ei ddysgu mewn ysgolion lleol felly wnes i erioed ei ddysgu.
"Yn ddiweddar, sylwais fod fersiwn Cernyweg gan Say Something, yr wyf wedi'i ddefnyddio ar gyfer Cymraeg ... felly roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n bryd dysgu o'r diwedd nawr y gallwn i."
Mae Lianne yn defnyddio ei sgiliau i helpu i gyfieithu Minecraft ac ysgrifennu erthyglau byr ar gyfer Wikipedia.
Mae Leah Baird, o Aberystwyth, yn dysgu Pwyleg er mwyn sgwrsio gyda'i chydweithwyr o Wlad Pwyl yn eu hiaith frodorol.
Mae'r fenyw 23 oed, sydd hefyd yn dysgu Cymraeg a Sbaeneg, yn gweithio fel gwarchodwr diogelwch, glanhawr a chynorthwyydd personol i berson ag awtistiaeth - sy'n golygu nad oes ganddi amser i fynychu dosbarthiadau traddodiadol.
"Er ei bod yn haws defnyddio'r ap gan mai dim ond 10 munud y dydd y mae'n rhaid i mi ei wneud ac y gallaf ei wneud unrhyw bryd, rwy'n colli bod mewn dosbarth gydag eraill sydd â'r un faint o wybodaeth â mi pan oeddwn i'n dysgu ieithoedd yn ysgol.
"Mae yna rywbeth calonogol ynglŷn â bod o gwmpas eraill pan rydych chi'n dysgu dwi'n meddwl."
Beth yw'r farn academaidd?
Mae Guy Baron, pennaeth ieithoedd modern ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn credu y dylid ymgorffori technoleg mewn addysgu ar bob lefel - ond nid i eithrio mathau eraill o addysgu.
"Rydyn ni'n ceisio moderneiddio'r cyfan, ond dwi ddim yn credu y dylech chi ddefnyddio un heb y llall," meddai.
"Mae dysgu ieithoedd traddodiadol wedi cefnu ar hyn ychydig yn enwedig ar lefel gradd, efallai y bu elfen o elitaeth, snobyddiaeth am y Duolingos a'r Babbels nad ydyn nhw ar ein cyfer ni ond rydyn ni'n dod yn ymwybodol iawn o'r ffordd fodern y mae myfyrwyr eisiau dysgu.
"Mae hefyd yn dibynnu ar y lefel, mae gradd yn llawer mwy dwys, gyda strwythurau gramadeg cymhleth, darllen llenyddiaeth, astudiaethau diwylliannol, nad ydyn ni o reidrwydd eu heisiau mewn amgylchedd dysgu iaith nodweddiadol.
Dywedodd Dr Baron, uwch-ddarlithydd mewn astudiaethau Sbaeneg ac America Ladin, ei fod yn defnyddio ap i ddysgu Cymraeg ochr yn ochr â dosbarthiadau traddodiadol, am nad yw bob amser yn gallu eu mynychu.
"Mae'n wych, ond mae yna anghysonderau rhwng yr hyn sy'n cael ei ddysgu yn yr ap a'r ystafell ddosbarth.
"Rydych chi'n dysgu un acen, un dafodiaith pan mae sawl un gwahanol yn Gymraeg felly mae'n ddefnydd cyfyngol o'r iaith, ond mae'r manteision yn gorbwyso unrhyw anfantais oherwydd dyma'r ffordd mae pobl eisiau dysgu - ac mae'r anfanteision yn dibynnu ar y lefel.
"Alla i ddim mynd i hanner fy nosbarthiadau ar gyfer Cymraeg ond mae'r ap yn ei gadw i fynd."