Is-ganghellor Bangor: 'Dim bygythiad i'r Ysgol Addysg'
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Bangor wedi dweud fod ansicrwydd ynglŷn â swyddi rhai darlithwyr ar ben ac y byddan nhw'n "cynyddu eu darpariaeth" o'r cwrs addysg yn y blynyddoedd nesaf.
Ym mis Mehefin, fe ddywedodd y brifysgol eu bod yng nghanol proses ymgynghorol i ddiswyddo cyfwerth ag 8.2 o swyddi llawn amser yn yr Ysgol Addysg.
Ond yn ei gyfweliad cyntaf ers cymryd yr awenau, fe ddywedodd yr is-ganghellor newydd, Yr Athro Iwan Davies fod y sefyllfa bellach wedi ei "datrys" ac nad oedd "bygythiad".
Ond dywedodd cyn-aelodau staff wrth BBC Cymru ddydd Gwener fod sylwadau'r Athro Davies yn "gamarweiniol".
'Ymrwymiad heb amheuaeth'
Cafodd pryderon eu codi yn wreiddiol pan welodd BBC Cymru ddrafft mewnol ymgynghorol i ddiswyddo rhai o staff yr ysgol wrth i'r brifysgol geisio gwneud arbedion o dros £5m.
Dywedodd Yr Athro Davies ei fod yn "falch fod yr ysgol yn cynyddu'r ddarpariaeth" a'i fod yn "hapus iawn gweld y recriwtio".
"Mae'n hymrwymiad ni i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, heb unrhyw amheuaeth," meddai.
Wrth drafod ei gyfnod dechreuol fel is-ganghellor, ychwanegodd mai "rŵan oedd yr amser i sefydlogi'r cwch a gwneud hynny mewn dyfroedd tawel".
Ychwanegodd: "Mae'r cyfnod yn heriol ond mae pob cyfnod yn heriol.
"Bydden i'n galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn prifysgolion sy'n gallu cael effaith ar y gymdeithas ac effaith ar yr economi."
Dywedodd hefyd fod gweld myfyrwyr yn astudio cwrs meddygol yn gyfan gwbl ar y campws ym Mangor yn "ddyhead" ganddo.
'Siaradwyr Cymraeg yn gadael'
Dywedodd y cyn-aelodau staff, oedd am aros yn ddi-enw, bod sawl siaradwr Cymraeg ar fin neu eisoes wedi gadael eu swyddi yno a bod hynny'n ergyd i addysg drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
Yn ôl undeb llafur UCAC, sy'n cynrychioli rhai sy'n gweithio o fewn yr adran, mae cwestiynau i'w gofyn am faint o weithwyr o fewn yr adran sydd bellach yn gallu tiwtora drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd Rebecca Williams, is-ysgrifenydd cyffredinol a swyddog polisi'r undeb: "Yr hyn ry'n ni wedi cael gwybod fel undeb yw bod 'na o leia dau bwnc lle nad oes na diwtoriaid o fewn y brifysgol sydd yn gallu rhoi cefnogaeth i ddarpar athrawon gyda'u cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Dwi'n credu bod cwestiynau i'w gofyn a byddai'n dda cael rhagor o wybodaeth er mwyn cael darlun clir o'r sefyllfa."
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor ddydd Gwener bod dim digon o amser ganddyn nhw i gasglu'r holl ystadegau am allu ieithyddol staff.
Roedden nhw am bwysleisio bod eu cynlluniau ail-strwythuro wedi cael eu cyflwyno yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf a bod y newidiadau rheiny yn dal i fynd rhagddynt.
Tra bod cael gwared a staff ar draws y brifysgol yn anorfod dan y cynlluniau hynny er mwyn arbed arian, roedden nhw am sicrhau na fyddai'r ddarpariaeth Gymraeg yn cael ei andwyo.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd16 Mai 2019