Ffilm Netflix yn y Fatican yn 'emosiynol' i Jonathan Pryce

  • Cyhoeddwyd
Jonathan PryceFfynhonnell y llun, Peter Mountain
Disgrifiad o’r llun,

Daw Jonathan Pryce - yma'n ei rôl fel y Pab Ffransis - yn wreiddiol o Garmel ger Treffynnon

Mae'r actor o Sir y Fflint, Jonathan Pryce, wedi dweud bod dangos ei ffilm ddiweddaraf yn y Fatican yn "foment emosiynol".

Mae Pryce yn chwarae rôl y Pab Ffransis ochr yn ochr â'i gydwladwr Syr Anthony Hopkins yng nghynhyrchiad newydd Netflix, The Two Popes.

Mae'r ffilm yn archwilio'r cyfeillgarwch rhwng y Pab Ffransis a'r Pab Bened tua'r amser y trosglwyddodd y babaeth i Francis, sydd wedi bod yn bennaeth yr Eglwys Gatholig ers 2013.

Does dim cadanrhad a yw'r pab wedi gweld y ffilm, ond credai Pryce ei bod wedi derbyn "sêl bendith" gan yr eglwys.

'DVD i'r Pab'

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Pryce: "Roedd un o'r cardinaliaid a ddaeth [i'r dangosiad] yn agos iawn at Bened ac at Ffransis.

"Roeddwn i'n nerfus iawn ynglŷn â'i gwrdd a siaradais ag ef ar ddiwedd y ffilm - roedd yn gwenu pan ddaeth o allan o'r ffilm, fel yr oedd yr offeiriaid a'r cardinaliaid eraill. Roedden nhw wedi mwynhau'r ffilm.

"Roedden nhw'n meddwl ei fod yn onest iawn. Roedden nhw wedi eu diddanu gan y ffaith fy mod yn chwarae rhan Ffransis, a'r ffaith fy mod yn edrych fel Ffransis."

Dywedodd Pryce fod y cardinal "wedi gofyn am DVD y gallai gymryd i Ffransis iddo ei weld, oherwydd ei fod yn argyhoeddedig yr hoffai'r ffilm, ac roedd hynny wedi fy nghyffwrdd yn fawr".

"Wnes i ddim yn union ddechrau crio ond roedd yn foment eithaf emosiynol i gael y math hwnnw o sêl bendith."

Ffynhonnell y llun, Peter Mountain
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Jonathan Pryce (dde) fod ganddo "barch enfawr" tuag at Syr Anthony Hopkins (chwith)

Mae perfformiad Pryce eisoes wedi'i gydnabod gydag enwebiad Golden Globe am yr actor gorau, tra bod Syr Anthony Hopkins wedi'i enwebu am yr actor cynorthwyol gorau.

Mae'r ffilm a'r sgript wedi eu henwebu am wobrau hefyd.

Mae'r ffilm yn archwilio gorffennol y Pab Ffransis yn Ariannin, tra bod ei boblogrwydd fel cardinal yn cyferbynnu â cheidwadaeth y Pab Bened.

"Mae'r ffilm, os yw'n ymwneud ag unrhyw beth, yn ymwneud â maddeuant," meddai Pryce.

"Yn y bôn, mae'n ymwneud â natur dadl, ac am faddeuant a thosturi. Ac i allu cael safbwyntiau gwrthwynebol, ac eto i fod â pharch at ein gilydd a gallu siarad amdano a'i drafod.

"Y diffyg trafodaeth a'r diffyg dealltwriaeth yma o'r ddwy ochr yw'r hyn sy'n ein llethu."

'Dau bab Cymreig o'r diwedd!'

Mae'r ffilm hefyd yn rhoi cyfle i weld dau o actorion uchaf eu parch Cymru ochr yn ochr â'i gilydd ar y sgrin.

"Dim ond Tony a fi oedd yna i gydnabod y ffaith ein bod ni'n dau yn Gymry, ac roedd yn bwysig i ni. Dau bab Cymreig o'r diwedd!

"Er fy mod i wedi amau bod pab Cymreig erioed. Rwy'n credu bod y Saeson wedi ceisio pasio Hadrian VII i ffwrdd fel pab Seisnig ond rwy'n argyhoeddedig ei fod yn Gymro."

Ffynhonnell y llun, Peter Mountain
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddau Gymro wedi eu henwebu am wobrau yn y Golden Globe

Ychwanegodd Pryce: "Cafodd Tony a minnau amser hyfryd gyda'n gilydd, mae gen i barch enfawr tuag ato.

"Roedd bob amser yn cael ei ystyried yn gymeriad i'w efelychu. Mae ychydig yn hŷn na fi, ac er ei fod yn dod o dde Cymru, roeddwn i'n dal i edrych i fyny ato.

"Roedd yna amser pan gyhoeddodd ei fod yn mynd i ymddeol pan oedd tua 60 oed.

"Roeddwn i, a llawer o actorion eraill o Gymru, yn meddwl: 'Hwre! Nawr fe gawn gyfle i chwarae'r holl rannau y mae'n eu gwneud'. Ond nid dyna wnaeth o, ac mae'n dal i wneud yr holl rannau yna, felly rwy'n aros iddo fynd! Ond cawson ni hwyl aruthrol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Pab Ffransis go iawn - mae llawer o deulu Jonathan Pryce yn gweld tebygrwydd mawr rhwng y ddau

Cyn ei ddewis i chwarae'r Pab Ffransis, roedd nifer o bobl ar y we wedi nodi ei debygrwydd i gymeriad Pryce yn y gyfres teledu boblogaidd Game of Thrones, yr High Sparrow.

Dywedodd Pryce fod y tebygrwydd wedi helpu i'w argyhoeddi i gymryd y rhan, yn enwedig y ffaith fod llawer, gan gynnwys ei deulu wedi dweud ei fod yn edrych yn debyg i'r Pab.

"Gwyliais sawl fideo YouTube o sut oedd o'n siarad, y ffordd addfwyn y siaradodd. Dysgais Sbaeneg ac Eidaleg, a rhywfaint o Ladin. Y Lladin oedd yr anoddaf. "

Mae The Two Popes mewn sinemâu dethol ac yn ffrydio ar Netflix o 20 Rhagfyr.