Pedwar achos o'r diciâu yng Ngharchar y Parc, Pen-y-bont
- Cyhoeddwyd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i achosion o'r diciâu, neu TB, ymysg pedwar dyn yng ngharchar Parc, Pen-y-bont dros y naw mis diwethaf.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Carchar y Parc a'r gwasanaeth prawf (probation) yn cydweithio, a bydd sgrinio yn cymryd lle yn Ionawr i'r rheini sydd wedi bod mewn cysylltiad agos gyda'r dynion.
Bydd archwiliadau yn parhau a bydd cyngor ychwanegol neu sgrinio yn cael eu darparu os oes angen.
Mae'r dynion sydd wedi cael y diciâu wedi ymateb yn dda i'w triniaeth, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Does dim lledaeniad wedi cael ei gyhoeddi ar hyn o bryd, ond mae'r sefyllfa'n parhau i gael ei fonitro'n agos.
Dywedodd Siôn Lingard o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae'r diciâu'n anodd dal, a rhaid bod mewn cysylltiad agos i berson gyda'r diciâu am amser hir er mwyn i berson arall ddal yr haint.
"Serch hynny, oherwydd bod rhai aelodau o staff y carchar wedi bod mewn cysylltiad agos gyda charcharwyr sydd wedi dal yr haint, byddwn ni'n sgrinio staff yn y carchar yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
"Mae'r haint yn gallu cael ei drin trwy gymryd gwrthfiotigau a gellir disgwyl gwellhad llwyr yn y rhan fwyaf o achosion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2019