Eisteddfodau'r Nadolig

  • Cyhoeddwyd

Mae nifer o draddodiadau'r Nadolig wedi eu colli dros y blynyddoedd, hen arferion sydd bellach yn angof. Un o'r rheiny oedd cynnal eisteddfodau dros gyfnod y Nadolig.

Karen MacIntyre Huws sy'n olrhain hanes yr Eisteddfodau Nadolig, a oedd yn boblogaidd dramor yn ogystal ag yng Nghymru.

Ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol roedd dau blentyn bach â'u bagiau'n orlawn o fathodynnau, sticeri a beiros.

Meddai un wrth y llall yn wên o glust i gyd "Wsti be? Dwi'n meddwl bod Steddfod bron iawn yn well na 'Dolig!"

Rhyfedd iddo ddweud hynny gan mai dros y Nadolig y cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf erioed yng Nghymru a pharhaodd y traddodiad o eisteddfod, ac eisteddfod Nadolig hyd ddechrau'r 1900au, cyfnod o dros 800 mlynedd.

Mae'r hanes yn cychwyn yn 1176 pryd galwodd yr Arglwydd Rhys ar feirdd a cherddorion i ddod i'w gastell yn Aberteifi i gystadlu yn erbyn ei gilydd.

Y brif wobr oedd cadair wrth fwrdd yr Arglwydd ei hun a dyna gychwyn ar yr hen arfer o roi cadair yn brif wobr mewn eisteddfod, arfer sydd yn parhau hyd heddiw.

Disgrifiad o’r llun,

Hysbyseb i Eisteddfod Nadolig Aberpennar, 1859

Roedd Eisteddfodau Nadoligaidd fel un Aberteifi yn boblogaidd tu hwnt ond daeth penllanw'r diddordeb yn ail hanner y 1800au gyda llu o eisteddfodau hyd a lled Cymru: Caereinion 1856, Treherbert 1879, Aberafan 1853, Rhymni 1856, Pen-y-bont-fawr 1858, Ffestiniog 1884 a Merthyr Tudful yn 1856 i enwi ond llond dwrn.

'Gostyngiad cyffredinol'

Mae adroddiad papur newydd am Eisteddfod Bodringallt, 1912 yn nodi bod yr eisteddfod yn mynd o nerth i nerth ond erbyn diwedd y 1920au gwelwyd gostyngiad cyffredinol yn eu poblogrwydd, er roedd Eisteddfod Nadolig Trefeglwys yn fyw ac yn iach yn 1938.

Diddorol yw'r ffaith nad oedd hysbysebu mawr ar yr eisteddfodau hyn ym mhapurau newydd y cyfnod ond roedd sylw mawr iddynt yn y wasg Gymreig yn dilyn y digwyddiad.

Ffynhonnell y llun, Archif Creadigol/Creative Archive

Mae cyfnodolion fel Tarian y Gweithiwr, Y Celt, Y Genedl Gymreig, Y Dydd a llu o gyhoeddiadau Cymraeg eraill yn cynnwys adroddiadau cyson gan nodi'r buddugwyr yn y gwahanol gystadlaethau a phwy oedd yn llywyddu ac yn y blaen.

Yn Y Dydd Rhagfyr 29, 1909 cafwyd adroddiad am 'Eisteddfodau'r Nadolig' ac yn achos Eisteddfod Nadolig Jerwsalem, Rhymni 1881, cyhoeddwyd beirniadaeth hirwyntog y brif gystadleuaeth farddonol yn ei chyfanrwydd yn y papur newydd.

Ffynhonnell y llun, Archif Creadigol/Creative Archive License
Disgrifiad o’r llun,

Eisteddfod Sardis

Eisteddfodau tramor

Ond nid yng Nghymru'n unig yr arferid cynnal eisteddfodau dros y Nadolig. Cynhaliwyd Eisteddfod Gogledd Lloegr, Stockton-on-Tees ar ddydd Nadolig am flynyddoedd cyn symud i'r diwrnod canlynol yn 1909.

Ar ddydd Nadolig 1854, ac yn 1871, ac am flynyddoedd wedyn, cynhaliwyd Eisteddfod Nadolig y Gordofigion yn Lerpwl.

Bu eisteddfodau poblogaidd dros y môr hefyd gyda channoedd yn mynychu eisteddfodau yn Nhrelew, Patagonia ac ar hyd a lled America: Carbondale, Cholorado, Pittsburg, Pennsylvania a Granville, Efrog Newydd. Eisteddfodau a oedd yn amlwg o ddiddordeb yma yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,

Rhaglen Eisteddfod Granville, New York

Ym mhapur newydd Y Drych, Rhagfyr 31, 1885 mae hanes Eisteddfod Pittsburgh, a gynhaliwyd ar y 26ain o Ragfyr, yn nodi maint y gynulleidfa yn ogystal â pha mor hael oedd y gwobrau: "Cys. gorawl, 'Daughters of Israel' gwobr $125, rhwng corau Newburgh, Youngstown, Johnstown, Sharon a Pittsburgh; gadawyd y feirniadaeth hyd y cyfarfod hwyrol gan ei bod eisoes yn hanner awr wedi chwech. Bernid fod dros 2500 o bobl yn y cyfarfod prydnawnol."

Ac yn y 'Cyfarfod Hwyrol'

"Canwyd 'Hen Wlad fy Nhadau' gan D. Jenkins, a'r tair mil o bobl yn uno yn y cydganu, nes oedd y mawl yn ogoneddus."

Yn ôl Iwan Hughes o'r Fflint, sy'n casglu pob math o ddeunydd ar hanes Cymry America, roedd Eisteddfod Granville, 1907 mor boblogaidd ag erioed: "Roedd y cythraul canu yn chwyrn iawn. Bu dadlau ffyrnig ymysg pawb am y canlyniadau am amser maith".

Yn yr eisteddfod honno roedd yn agos i 3,000 o bobl yn bresennol mae'n debyg, "Yn 1891 roedd un dyn busnes craff yn gwerthu sigâr pump cent o'r enw 'The Eisteddfod', meddai Iwan!

Ffaith sy'n amlygu ei hun yn yr holl eisteddfodau a gynhaliwyd yng Nghymru yw mai capeli, ysgolion Sul neu gymdeithasau dirwestol oedd yn gyfrifol gan amlaf am eu trefnu.

Mae'r testunau eu hunain yn adlewyrchu hynny.

Dyma gerdd fuddugol yn Eisteddfod Temlwyr Da Penygroes, Dyffryn Nantlle, Rhagfyr 26ain 1899 sy'n cadarnhau mai te, nid rhyw 'hen gwrw budr' fel yr oedd yn cael ei alw, oedd hoff ddiod eisteddfodwyr y cyfnod:

Am Eisteddfod fawr Nadolig

Y mae pawb yn awr yn sôn.

Sôn am hon sydd trwy Feirionydd

A thrwy Arfon a Sir Fôn.

Daw adroddwyr De a Gogledd

I'r Eisteddfod yn ddiri

I ymgeisio am y gini

Am ganmol Everybody's Tea.

Teitl traethawd Eisteddfod Cymrodorion Dirwestol Merthyr Tudful, Nadolig 1856 oedd 'Sefyllfa Wareiddiol y Cymry' ac yn y traethawd buddugol mae'r awdur yn nodi bod "ym Mhrydain gymaint â chwe chan mil o feddwon yn ymlygru, yn ymddyrysu, yn ymhurtio ac yn ymfelldithio trwy ymarferiad beunyddiol â chwpan y felldith". Nid annhebyg i Faes Carafanau'r Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn y byddai rhai'n ei ddadlau!

Hefyd o ddiddordeb: