Bwriad i gryfhau pwerau prynu tai gwag cynghorau

  • Cyhoeddwyd
tai gwag

Mae yna gynlluniau i roi mwy o bwer i gynghorau lleol i gyflymu'r broses o brynu adeiladau gwag a thir sydd ddim yn cael ei ddefnyddio.

Daw'r cynnig, sy'n destun ymgynghoriad, fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i adeiladu mwy o dai neu eiddo masnachol ar dir gwag.

Yn ôl yr amcangyfrif, mae 30,000 o dai gwag yng Nghymru, ond dim ond saith awdurdod cynllunio sydd â digon o dir yn eu hardaloedd i ddarparu cyflenwad pum mlynedd ar gyfer datblygiadau tai.

Wrth eu defnyddio yn y ffordd gywir, yn ôl Llywodraeth Cymru, gall pwerau o'r fath gyfrannu at adfywio cymunedau yn effeithiol ac yn effeithlon, creu lleoedd a hyrwyddo busnesau, gan arwain at wella ansawdd bywyd.

Bydd adolygu polisi cynllunio cenedlaethol i gefnogi'r defnydd priodol o bwerau prynu gorfodol hefyd yn rhoi cyfiawnhad ychwanegol i gynghorau weithredu gorchymyn prynu gorfodol.

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James: "Rydyn ni'n gweld tai gwag, eiddo oedd yn arfer cael eu defnyddio'n fasnachol a thir gwag mewn trefi a phentrefi ledled Cymru - sy'n gallu difetha cymunedau lleol.

"Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wneud popeth o fewn ei gallu i helpu i adeiladu'r cartrefi y mae pobl eu heisiau, a helpu i greu swyddi yn agosach at gartrefi pobl.

"Felly bydd y cynigion rydyn ni'n eu gwneud i'r broses prynu gorfodol yn helpu cynghorau lleol i gyflawni'r weledigaeth hon, drwy drawsnewid tai a thir gwag yn gartrefi a gweithleoedd sydd eu hangen ar bobl."

Mae ymgynghoriad ar gynnig Llywodraeth Cymru yn cael ei gynnal ar hyn o bryd, dolen allanol, a bydd yn rhedeg tan 17 Ionawr 2020.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol