Cynnydd 40% yn nifer y tai gwag yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Tŷ gwag
Disgrifiad o’r llun,

Mae tai gwag yn aml yn denu fandaliaeth, cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

Mae dros 27,000 o dai preifat yng Nghymru'n wag, sy'n gynnydd o 40% dros 10 mlynedd.

Mae'r nifer wedi cael ei ddisgrifio fel "adnodd wedi'i wastraffu", mewn cyfnod ble mae cymaint o angen tai fforddiadwy.

Dywedodd Shelter Cymru bod cynghorau â'r pŵer i gymryd rheolaeth o rai tai er mwyn eu defnyddio unwaith eto, ond nad yw'r awdurdodau'n gwneud hynny am fod ganddynt ofn "ei chael hi'n anghywir".

Mae'r elusen eisiau gweld proses debyg i un Yr Alban yn cael ei gyflwyno, ble gall cynghorau gymryd rheolaeth o dai gwag a'u gwerthu mewn ocsiwn.

Mae tai yn aml yn parhau'n wag am nad yw awdurdodau'n gallu cysylltu â pherchnogion, neu os yw'r perchnogion yn disgwyl i'r farchnad dai wella.

Mae fflatiau uwchben siopau yn anodd dychwelyd i ddefnydd, ac mae adeiladau gwag yn gallu denu fandaliaeth, cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

'Angen enbyd am dai fforddiadwy'

Dywedodd cyfarwyddwr Shelter Cymru, John Puzey: "Does neb mewn unrhyw gymuned eisiau tai gwag yn eu hardal.

"Rydyn ni'n gwybod, pan rydych chi'n lleihau nifer y tai gwag, rydych chi hefyd yn lleihau trosedd a fandaliaeth.

"Rydyn ni hefyd yn gwybod bod yna lot o bobl sydd ag angen enbyd am dai fforddiadwy.

"Felly os allwn ni roi tai gwag mewn lle addas a'r amgylchiadau addas gyda'r bobl sydd eu hangen, mae'n sefyllfa dda i bawb."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle yma yng Nghasnewydd, oedd yn arfer bod yn dai ar gyfer pobl hŷn, wedi bod yn wag ers rhai blynyddoedd

Yn ôl Mr Puzey mae amrywiaeth eang o ran polisïau a gwaith awdurdodau lleol, a bod cymryd rheolaeth o dai gwag yn "gymhleth".

"Mae 'na bethau o'r enw gorchmynion rheoli adeiladau gwag a gorchmynion prynu gorfodol, ond does dim o'r rheiny wedi cael eu gweithredu yng Nghymru am o leiaf tair blynedd, os nad hirach," meddai.

"Mae'r pwerau yma, allai gael eu defnyddio, ond dydyn nhw ddim. Pam fod hynny? Efallai oherwydd diffyg arbenigedd neu bryder y gallan nhw ei chael hi'n anghywir."

Mae ffigyrau Data Cymru yn dangos bod 27,213 o dai preifat yng Nghymru'n wag yn y flwyddyn 2018/19, o'i gymharu â 18,980 yn 2009/10.

'Torcalonnus'

Yng Nghasnewydd mae dros 7,000 o deuluoedd yn chwilio am dai fforddiadwy, a 1,199 o dai preifat sy'n wag.

Dywedodd cynghorydd lleol, Allan Morris: "Pan mae angen enbyd arnoch chi am dŷ, ac rydych chi'n gweld llefydd yn dirywio, mae'n anodd deall pam dydy teuluoedd digartref ddim yn gallu defnyddio'r llefydd hynny.

"Mae'n rhwystredig, ac yn dorcalonnus mewn nifer o achosion."

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod ei gynllun Troi Tai'n Gartrefi yn cynnig benthyciadau di-log i droi tai gwag yn adeiladau preswyl unwaith eto.

Ychwanegodd llefarydd eu bod hefyd yn gobeithio adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy erbyn 2021.