Mamau'n sefydlu cynllun cyfnewid dillad
- Cyhoeddwyd
Cyfnewid dillad: 'Does dim byd yn cael ei wastraffu'
Mae criw o fenywod o ardal Aberporth yng Ngheredigion wedi creu cynllun arloesol i gyfnewid dillad.
Bwriad Dillad Dwywaith yw rhoi'r cyfle i drigolion lleol i gyfnewid dillad ar gyfer pobl o bob oedran, ond yn enwedig i blant ifanc.
Mae pobl yr ardal wedi bod yn cyfrannu dillad ail-law, ac mae modd i bobl eu cyfnewid am rai eraill yn Neuadd Pentref Aberporth.
"Sefydlon ni Dillad Dwywaith mas o syniad gyda grŵp o famau," meddai un o'r trefnwyr, Lisa Stopher.
"Mae plant gyda ni gyd sydd yn tyfu mas o'u dillad. Mae e fel swap shop... iwso dillad o fewn y gymuned, fel bod ni'n gallu dod i rywle a mynd â rhywbeth o Dillad Dwywaith a rhoi rhywbeth nôl i Dillad Dwywaith."

Mae'r gymuned leol wedi bod yn hael eithriadol, medd y trefnwyr
Mae Aberporth yn bentref di-blastig, ac mae'r pwyslais ar gynaladwyedd wedi rhoi hwb i'r cynllun, yn ôl Lisa Stopher.
"Mae'n hala ni gyd i feddwl. Mae plant yr ysgol feithrin yn meddwl amdano. Shwd allwn ni ail ddefnyddio dillad yn ein cymuned?"
Mae Aberporth yn rhan o gynllun Dechrau'n Deg, sy'n cynorthwyo plant a theuluoedd mewn ardaloedd difreintiedig.
"Mae yna angen," meddai Ms Stopher. "Mae angen yn y pentref. 'Dan ni wedi ceisio ailddefnyddio dillad a rhoi cotiau gaeaf sydd eu hangen nhw.
"Mae Aberporth yn llewyrchus yn yr haf, ond mae angen help ar rai pobl."

Dywed Nicola King fod diddordeb eisoes mewn ehangu'r cynllun i lefydd fel Caerfyrddin ac Aberystwyth
Yn ôl Nicola King, sydd yn gweithio yn yr ysgol feithrin leol, mae'r cynllun yn cynorthwyo gyda'r costau o gael dillad i blant ifanc.
"Mae gen i dri o fechgyn - pump, naw ac 11 oed. Fi'n gweithio llawn amser a fi dal yn stryglan weithie. Fi wedi swopo wellies a cotiau i fy machgen bach i."
Fe fydd y dillad ar gael bob dydd Mawrth yn Neuadd Aberporth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2019