'Cyngor Môn methu dygymod â fandaliaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae un o goedwigoedd amlycaf Llangefni wedi cael ei difrodi ar ôl i ffens bren gael ei rhwygo a'i thaflu i'r afon.
Yr wythnos ddiwethaf cafodd gwarchodfa natur Nant y Pandy - sy'n denu dros 60,000 o ymwelwyr y flwyddyn yn ôl y cyngor - ei dargedu gan "fandaliaid".
Dywed Cyngor Môn fod dros 150 o fetrau o'r ffens wedi ei difrodi gan arwain at "ymateb chwyrn" yn lleol.
Tra bod yr heddlu'n parhau i ymchwilio i'r achos, mae'r cyngor yn dweud fod y difrod yn wastraff arian ac adnoddau.
'Penna' bach'
Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones, deilydd portffolio cefn gwlad y cyngor: "Ma' 'na ddifrod ofnadwy.
"Ma' pres y cyngor mor brin rŵan, fedrwn ni ddim dygymod efo fandaliaeth fel yma.
"'Sgyna ni ddim yr adnodda' ddim mwy i matsio fyny lle ma' 'na benna' bach wedi dod yma a chreu difrod."
Dywedodd Dylan Owen, Warden AHNE (Ardal Harddwch o Naturiol Eithriadol) a Chefn Gwlad bod y difrod yn "siomedig".
"Treuliodd y Tîm Cefn Gwlad ddau ddiwrnod, gyda chymorth rhai o'n gwirfoddolwyr rhagorol, yn codi rhwydi dros dro ac yna'n trwsio'r ffensys er mwyn diogelu Nant y Pandy unwaith eto," meddai.
"Roedd nifer o'r panelau a oedd ar goll wedi mynd o rannau uwchben yr afon ac yn ffodus iawn, ni chafwyd unrhyw ddamweiniau o ganlyniad i hyn."