Y Gynghrair Genedlaethol: Sutton United 3-1 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Omar BugielFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Omar Bugiel dair gôl i Sutton United

Colli oedd hanes Wrecsam unwaith eto wrth iddyn gael eu trechu 3-1 oddi gartref yn Sutton United.

Roedd hi'n hanner cyntaf siomedig iawn i Wrecsam, gydag Omar Bugiel yn sgorio ddwywaith i'r tîm cartref.

Ychwanegodd Bugiel ei drydedd yn yr ail hanner, cyn i James Jennings sgorio gôl gysur i'r Dreigiau yn y munud olaf.

Mae Wrecsam bellach pedwar pwynt oddi ar bod yn ddiogel yn y Gynghrair Genedlaethol.