Pro14: Dreigiau 22-20 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Sam DaviesFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Fe giciodd Sam Davies gôl adlam gyda chic ola'r gêm i sicrhau buddugoliaeth gofiadwy i'r Dreigiau yn erbyn y Scarlets yn y Pro14 nos Sadwrn.

Roedd Leigh Halfpenny yn meddwl ei fod wedi gwneud digon i ennill yr ornest i'r Scarlets gyda chic gosb hwyr mewn amodau anodd ar Rodney Parade.

Fe gafodd Sam Davies gyfle i gipio'r pwyntiau i'r tîm cartref yn fuan wedi hynny gyda chic gosb, ond fe dynnodd ei gic heibio'r postyn.

Ond gyda'r cloc wedi mynd heibio'r 80 munud, fe wnaeth yn iawn am hynny gyda chic adlam wych i sbarduno dathliadau'n y glaw.

Y chwaraewyr rhyngwladol yn rhengoedd yr ymwelwyr sgoriodd y ceisiau, gyda Gareth Davies a Ken Owens yn croesi.

Rhodri Williams sgoriodd unig gais y Dreigiau, gyda'r maswr Sam Davies yn sgorio gweddill y pwyntiau.

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan S4C Chwaraeon 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan S4C Chwaraeon 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿