Gyrrwr car yn 'lwcus i fod yn fyw' ar ôl taro giatiau parc

  • Cyhoeddwyd
car ym Mharc y Rhath
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn gynnar fore Sul

Mae car wedi gwrthdaro â giatiau parc yng Nghaerdydd gan achosi "difrod sylweddol".

Cafodd gyrrwr y car, dyn 22 oed, ei arestio ar amheuaeth o yfed a gyrru yn dilyn y digwyddiad ger Llyn Parc y Rhath tua 07:30 ddydd Sul.

Ond dywedodd Heddlu De Cymru ei fod bellach wedi ei ryddhau heb gyhuddiad ar ôl rhoi ail brawf anadl negyddol.

Ychwanegodd Heddlu'r De mewn trydar, dolen allanol fod y gyrrwr yn "lwcus i fod yn fyw" ac nad oedd wedi'i anafu.

Cafodd criwiau o'r gwasanaeth tân eu galw hefyd er mwyn sicrhau fod y car, a oedd yn gorwedd ar ei ochr, yn ddiogel.

Ffynhonnell y llun, @SWP_Roads