Cyhoeddi negeseuon y Nadolig 2019 o Gymru

  • Cyhoeddwyd
NadoligFfynhonnell y llun, Getty Images

Ar ddiwrnod Nadolig, mae ffigyrau amlwg ym mywyd cyhoeddus wedi cyhoeddi negeseuon yr ŵyl.

Mae sawl un yn edrych yn ôl dros y 12 mis diwethaf ac ymlaen i'r flwyddyn newydd.

Un peth sy'n clymu nifer yw'r awydd i bobl gymryd amser i'w hunain a dangos caredigrwydd tuag at eraill dros yr ŵyl.

Diolch i wirfoddolwyr a staff y gwasanaethau brys

Disgrifiad o’r llun,

Edrych ymlaen at ddegawd newydd mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford

Yn ei neges Nadolig mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn edrych ymlaen at ddegawd newydd wrth hefyd edrych yn ôl ar ei uchafbwyntiau o 2019.

"Ar ôl blwyddyn brysur iawn, rwy'n gobeithio y cawn ni i gyd gyfle yn ystod y Nadolig i ymlacio a myfyrio ynghylch y 12 mis diwethaf - ac i edrych ymlaen at 2020; dechrau degawd newydd.

"Rwy'n gobeithio y bydd pawb yn cael y cyfle i dreulio'r Nadolig yng nghwmni teulu, cyfeillion ac anwyliaid.

"Gall yr adeg hon o'r flwyddyn fod yn anodd i rai pobl. Efallai bod rhai yn teimlo'n unig, yn hiraethu am eu hanwyliaid, neu'n delio â straen ariannol. Cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun.

"Hoffwn ddiolch o waelod calon i bawb sy'n gweithio yn ein gwasanaethau brys a'n gwasanaethau cymdeithasol, ac i'r degau o filoedd o ofalwyr a gwirfoddolwyr sy'n rhoi o'u hamser dros y Nadolig er mwyn helpu pobl eraill.

"Rwy'n ddiolchgar iawn am bopeth rydych chi'n ei wneud. Diolch yn fawr.

"Dewch inni sicrhau bod 2020 yn flwyddyn sy'n ein huno ni, gan ddechrau'r degawd newydd gyda meddwl agored a phenderfyniad i gymodi a gweithio gyda'n gilydd i gael Cymru well i bawb."

Heriau cymunedau

Disgrifiad o’r llun,

"Mae anghyfiawnder, newyn, erledigaeth, camdriniaeth a gwrthdaro yn brofiad dyddiol i ormod o bobl" meddai Archesgob Cymru, y Parchedicaf John Davies

Yn ei neges ef mae Archesgob Cymru, y Parchedicaf John Davies yn canolbwyntio ar yr heriau sy'n wynebu ein cymunedau.

"Mae anghyfiawnder, newyn, erledigaeth, camdriniaeth a gwrthdaro yn brofiad dyddiol i ormod o bobl.

"Mae'n hen bryd iddynt hwythau gael profiad o wirionedd a chariad oherwydd, fel chi maent o bwys, mae'r byd o bwys.

"Cydnabyddwch y potensial sydd gennych i fod yn rhodd fyw o wirionedd a chariad i eraill ac i'r byd o amgylch drwy dderbyn a chroesawu rhodd Iesu Grist a'i ddysgeidiaeth.

"Dymunaf Nadolig bendithiol, gobeithiol ac ystyriol i chi, a blwyddyn newydd i fod yn rhodd Duw i eraill, oherwydd ein bod yn werthfawr, oherwydd y cawn ein caru, a'n bod yn bwysig," meddai.

'Pwysigrwydd dod ynghyd'

Ffynhonnell y llun, Undeb yr Annibynwyr
Disgrifiad o’r llun,

Parch Jill Hailey-Harris yw Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg

Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Jill Hailey-Harris mae ffydd yn goresgyn unrhyw ffiniau.

Gyda sawl adroddiad am dollbyrth a thariffs yn y newyddion yn sgil Brexit - mae'r Parchedig Harris yn atgoffa pobl nad oes "tollborth na thariff yn nheyrnas Duw".

Ychwanegodd: "Er ein gwahaniaethau fel Cristnogion ac er yr enwadau gwahanol mae un yn ein huno ni - sef Iesu Grist.

"Mae gyda ni gysylltiadau gydag eglwysi yn Ewrop... Gobeithio bydd y cysylltiad yna'n para a thrwy hynny byddwn yn gallu dangos i bobl bod undod yn bwysig, dyna sy'n dod â ni at ein gilydd.

"Nawr fe all yr eglwys fod ar ei gorau a dangos i'r byd y pwysigrwydd o ddod ynghyd," meddai.

Addunedu o'r newydd

Ffynhonnell y llun, Melda Grantam
Disgrifiad o’r llun,

Melda Grantham yw Ysgrifennydd Undodiaid Cymru

Mae Undodiaid Cymru yn annog pawb i ymroi ac addunedu o'r newydd i "rannu goleuni'r ŵyl arbennig hon yn ein byd ni heddi".

Dywedodd Ysgrifennydd Undodiaid Cymru, Melda Grantham: "Gadewch i ni gofio'n ddiolchgar am neges y plentyn a dyfodd yn ddyn, wrth i ni rannu cariad yn ein cymunedau.

"Dathlwn, am fod y llawenydd a ddaw i ni heddi yn concro holl dywyllwch ein byd.

"Er gwaethaf bob Herod a dyrnau ynghau.

"Mae hedd y Nadolig yn dal i barhau."

'Meddyliwch am yr Iesu y Nadolig hwn'

Ffynhonnell y llun, Catholic Church
Disgrifiad o’r llun,

Peter Brignall, Esgob Wrecsam

Mae Esgob Catholig Wrecsam, Peter Brignall yn gofyn i bobl gofio am yr Iesu yng nghanol prysurdeb y Nadolig eleni a chofio fod yr Iesu yn rhodd gan Dduw.

"Gadewch i ni anghofio ein cynlluniau a'r hyn sydd gennym ni i'w wneud y Nadolig hwn.

"Nid ni sydd yn gwneud i fab Duw ddod lawr o'r nefoedd i'r ddaear, rhodd ydyw gan Dduw - pwy bynnag yr ydym, ble bynnag yr ydym.

"Gwnewch le yn eich calonnau i groesawu gobaith ac ystyr newydd mewn ffyrdd rhyfeddol ac annisgwyl.

"Nadolig Llawen."

'Yr Arglwydd yn parhau i'ch caru'

Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Siaradodd y Pab yn Y Fatican am hanner nos, ac yna yn Sgwâr Sant Pedr

Yn siarad yn y Fatican ar ddydd Nadolig, galwodd y Pab Francis am roi diwedd ar anghyfiawnder yn y byd.

Wrth i filoedd o bobl wrando arno yn Sgwâr Sant Pedr, dywedodd weddi dros y rhai sydd wedi eu heffeithio gan wrthdaro, trychinebau naturiol a chlefydau, gan restru sawl gwlad.

Yn gynharach, dywedodd bod Duw yn caru pawb, "hyd yn oed y gwaethaf ohonom ni".

"Mae'n bosib eich bod wedi camfarnu, efallai eich bod wedi gwneud llanast llwyr o bethau... ond mae'r Arglwydd yn parhau i'ch caru."

Fe wnaeth gyfeirio at broblemau o fewn yr eglwys hefyd, gan ddweud na fyddai "beth bynnag sy'n mynd o'i le yn ein bywydau, yr hyn sydd ddim yn gweithio yn yr Eglwys, beth bynnag broblemau sydd yn y byd" yn cael eu defnyddio fel esgusodion o hyn ymlaen.