Saer 80 oed sy'n gwneud anrhegion Nadolig i blant

  • Cyhoeddwyd
Ted Bird
Disgrifiad o’r llun,

Erbyn iddo ymddeol roedd Ted Bird wedi creu gweithdy er mwyn creu teganau

Tua 10 mis cyn y Nadolig mae dyn sydd wedi ymddeol yn dechrau'r gwaith o greu teganau yn barod at dymor y Nadolig.

Nid Sion Corn yw hwn, ond cyn-weithiwr ambiwlans sydd wedi ymddeol ers 2001, cyn sefydlu ymgyrch i rannu anrhegion gyda phlant ar draws y byd.

Roedd Ted Bird, 80 oed o Gaerdydd, wedi hyfforddi fel prentis yn gwneud dodrefn ac fe benderfynodd ddefnyddio'i sgiliau gwaith coed er mwyn helpu.

"Roeddwn i'n chwilio am rywbeth i wneud gyda fy amser sbâr," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ted wedi creu tua 150 o eitemau eleni

"Rwy'n gwneud teganau... roedd gen i ddiddordeb mewn gwaith coed erioed, ac erbyn i mi ymddeol roeddwn i wedi creu gweithdy bach."

O fis Tachwedd ymlaen, mae'n defnyddio'r gweithdy i bacio'r anrhegion a'u dosbarthu i blant mewn gwledydd fel Zimbabwe a Moldofa.

Ond mae'r gwaith caled yn dechrau llawer cynt - tua mis Chwefror - pan mae Ted yn dechrau mynd ati i greu'r anrhegion.

Mae Ted wedi creu tua 150 o eitemau eleni - yn cynnwys ceir a gemau pren - gan weithio rhai dyddiau llawn ac ambell gyda'r nos.

Ffynhonnell y llun, Operation Christmas Child
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r anrhegion yn cael eu dosbarthu i wledydd fel Moldofa

"Roeddwn i'n arfer gwneud mwy ond mae'r blynyddoedd yn dechrau dal fyny gyda fi," meddai.

"Mae'n bleser gwybod fy mod i'n rhoi anrheg i blentyn dydw i ddim yn 'nabod, a fyddai byth yn 'nabod, sy'n mynd i roi ychydig o foddhâd."

Yn y cyfnod cyn y Nadolig, mae gweithdy Ted ar agor am hyd at 11 awr y dydd er mwyn dosbarthu'r pecynnau anrhegion.