Deddf i hybu amrywiaeth ar gynghorau

  • Cyhoeddwyd
Siambr Cyngor

O dan gynlluniau newydd Llywodraeth Cymru i gefnogi amrywiaeth a thryloywder mewn llywodraethau lleol, bydd yn haws i gynghorwyr fynychu cyfarfodydd y cyngor o bell a rhannu swyddi'r cabinet.

Bydd hefyd rhaid i gynghorau ddarlledu eu cyfarfodydd ar-lein.

Mae Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), a gyflwynwyd i'r Cynulliad ym mis Tachwedd, yn darparu ar gyfer sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer etholiadau, democratiaeth, perfformiad a llywodraethiant llywodraethau lleol.

Er mwyn cyflawni hyn, bydd y Bil yn:

  • Cryfhau trefniadau presennol er mwyn galluogi cynghorwyr i fynychu cyfarfodydd y cyngor o bell a chael cyfnodau o absenoldeb teuluol;

  • Galluogi rhannu swydd ar Gabinet y cyngor, gan gynnwys swydd yr Arweinydd. Bydd hefyd yn caniatáu i swyddi aelodau Gweithredol/aelodau Cabinet cynorthwyol gael eu creu;

  • Diwygio'r meini prawf cymhwysedd i ymgeiswyr etholiadau llywodraeth leol er mwyn caniatáu i ddinasyddion o unrhyw wlad (sy'n byw'n gyfreithlon yng Nghymru) sefyll;

  • Galluogi pobl sy'n gweithio i gyngor i sefyll mewn etholiad (heblaw rhai mewn swyddi a gyfyngir yn wleidyddol/uwch-swyddogion) heb orfod ymddiswyddo yn gyntaf (bydd rhaid iddynt ymddiswyddo pe baent yn cael eu hethol);

  • Rhoi dyletswydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i gymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau'r grŵp.

Darlledu cyfarfodydd ar-lein

Bydd y Bil hefyd yn sicrhau y bydd penderfyniadau gwleidyddol yn cael eu gwneud yn gyhoeddus. Er mwyn cefnogi hyn, mae'r Bil rhoi gofynion newydd ar waith o ran ymgysylltu â'r cyhoedd a chyfranogiad y cyhoedd.

Bydd rhaid i Gynghorau:

  • Gael strategaeth cyfranogiad y cyhoedd, gyda'r nod o'i gwneud yn haws i'r cyhoedd ddeall sut mae llywodraeth leol yn gweithio, yn gwneud penderfyniadau, a sut y gall bobl leol gyfrannu. Fel rhan o hyn, bydd rhaid i Gynghorau gyhoeddi canllaw ynghylch eu cyfansoddiadau mewn 'iaith syml';

  • Llunio cynllun deisebau, sy'n nodi sut y bydd awdurdodau lleol yn mynd i'r afael â deisebau, gan gynnwys e-ddeisebau;

  • Defnyddio technoleg i wella tryloywder a galluogi'r cyhoedd i gymryd rhan ym musnes y cyngor drwy ddarlledu cyfarfodydd cyhoeddus, a sicrhau fod dogfennaeth cyfarfodydd yn cael eu cyhoeddi'n ddigidol.

Disgrifiad o’r llun,

Julie James yw'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James: "Fel rhan o'n huchelgais i gael llywodraeth leol gadarn yng Nghymru, rydym am i bobl deimlo bod eu cynghorwyr yn eu cynrychioli'n dda.

"Mae'r cynigion yn y Bil hwn wedi'u dylunio i gynyddu amrywiaeth ymysg ein cynghorwyr lleol, yn ogystal â chynyddu cyfranogiad y cyhoedd mewn democratiaeth leol.

"Rydym am alluogi democratiaeth leol sy'n adlewyrchu ein hamrywiaeth fel cenedl. Bydd y Bil yn helpu i annog llawer mwy o bobl yng Nghymru i sefyll i fod yn gynghorwyr, a sicrhau bod pobl o bob cefndir yn gallu gwneud swyddi arweiniol a gweithredol.

"Mae'r Bil hefyd yn cymryd camau i annog amrywiaeth ehangach o aelodau'r cyhoedd i fod yn rhan o ddemocratiaeth leol.

"Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod llywodraethau lleol yng Nghymru yn cynnig gwasanaethau cyhoeddus gwell i bawb drwy helpu'r bobl sydd angen cymorth fwyaf, a hynny pan y byddant ei angen a lle y byddant ei angen."