Pro14: Scarlets 44-0 Gweilch
- Cyhoeddwyd
![Steff Evans](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/D4B3/production/_110315445_steffevans.jpg)
Fe groesodd Steff Evans ddwy waith i'r Scarlets yn erbyn y Gweilch
Fe wnaeth y Scarlets ennill yn gyfforddus a sicrhau pwynt bonws yn erbyn y Gweilch nos Iau.
Fe sgoriodd Ryan Conbeer a Steff Evans ddau gais yr un gyda Kieran Hardy a Josh Macleod hefyd yn croesi i ychwanegu at gyfanswm o chwe chais i'r tîm cartref.
Sgoriodd Leigh Halfpenny 12 pwynt gyda'i gicio wrth i'r Scarlets godi i'r ail safle.
Dyma oedd 12fed colled y Gweilch mewn 13 gêm wrth iddyn nhw fethu a sgorio unrhyw bwynt yn y gêm ddarbi leol.