Ceffyl o Gymru yn ennill y Grand National yng Nghas-gwent
- Cyhoeddwyd
Potters Corner - ceffyl a gafodd ei hyfforddi yng Nghymru yw enillydd ras Grand National Cymru yng Nghas-gwent.
Y tro diwethaf i geffyl o Gymru gyflawni'r gamp oedd 54 mlynedd yn ôl.
Mae'r ceffyl 9 oed yn eiddo yn rhannol i'r chwaraewr rygbi Jonathan Davies ac yr oedd yn cael ei farchogaeth ddydd Gwener gan y joci Jack Tudor sy'n 17 oed.
Roedd y ceffyl, a enillodd wobr Ceffyl Rasio Cymreig y flwyddyn ym mis Tachwedd, wedi bod yn tragedu'r ras gydol y flwyddyn.
Wedi'r canlyniad roedd Davies sy'n chwarae i'r Scarlets yn neidio gan lawenydd a dywedodd: "Mae'n freuddwyd i ni ac mae Christian Williams sydd wedi bod yn ei hyfforddi yn haeddu pob clod.
"Dwi methu stopio gwenu."
Roedd yna ddau geffyl arall yn amlwg yn y ras sef The Two Amigos a Yala Enki a ddaeth yn ail y llynedd.
Dywedodd y joci Jack Tudor bod ennill ddydd Gwener yn "enfawr a'i fod yn gobeithio ennill rasys eraill fel hyn."
Dywedodd yr hyfforddwr na allai'r ras fod wedi mynd yn well i Gymru a'i fod yn diolch am bob cefnogaeth.