Cofio'r newyddiadurwr, awdur a golygydd Ioan Roberts
- Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r newyddiadurwr, awdur a golygydd Ioan Roberts, fu farw yn 78 oed.
Yn frodor o Roshirwaun yn Llŷn, roedd yn beiriannydd sifil am gyfnod byr cyn dechrau ar ei yrfa newyddiadurol gyda phapur newydd Y Cymro.
Bu'n olygydd gyda rhaglen newyddion 'Y Dydd' ar HTV, yn ddarlledwr gyda BBC Radio Cymru, ac yn gynhyrchydd nifer o raglenni S4C gan gynnwys Hel Straeon.
Roedd y cerddor gwerin, Arfon Gwilym, yn 'nabod Ioan Roberts o'u dyddiau fel cydweithwyr gydag Y Cymro.
Dywedodd ei fod mewn "sioc" o glywed y newyddion, a bod ei farwolaeth wedi dod yn syndod.
"Roedd o'n un o'r newyddiadurwyr gorau gafodd Cymru erioed - yn newyddiadurwr o'r hen deip," meddai.

Ioan Roberts o'i gyfnod fel newyddiadurwr gydag Y Cymro
"Ei ddawn fwyaf o oedd ei ddawn efo geiriau. Roedd ganddo fo Gymraeg rhwydd, dealladwy ac roedd o'n gallu crisialu pethau yn arbennig o dda.
"Bydd 'na golled fawr ar ei ôl o. 'Dan ni i gyd mewn sioc."
'Pobol yn gallu ymddiried ynddo'
Un arall o'i ffrindiau agos ers blynyddoedd oedd yr Archdderwydd presennol, Myrddin ap Dafydd.
Fe gydweithiodd y ddau ar nifer o gyfrolau gafodd eu cyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch.
"Roeddwn i'n dotio at ei ddawn gynnil wrth drin geiriau. Doedd yna byth wastraffu lle ac amser drwy bentyrru - ac roedd cydweithwyr o fewn y byd teledu yn dweud yr un peth amdano.
"Roedd o'n gwybod sut i gael gafael ar stori a chyflwyno pobl heb dynnu sylw ato fo ei hun. Ers ei ddyddiau cynnar ar Y Cymro roedd pobol yn gallu ymddiried ynddo i adrodd eu straeon nhw."
Dywedodd bod Ioan Roberts wedi gweithio ar gofiant y ffotonewyddiadurwr rhyngwladol Philip Jones Griffiths am 20 mlynedd, gymaint roedd ei barch at y ffotograffydd a ddaeth ag erchyllterau Rhyfel Fietnam i sylw'r byd.
"Lluniau go iawn o bobl go iawn yng nghanol rhyfeloedd oedd deunydd y ffotograffydd, a phobl oedd yn ganolog i Ioan hefyd," meddai.
"Roedd o hefyd yn eithradol o boblogaidd ymysg plant. Roedd ein plant ni yn sôn am 'Io Mo' fel tasa fo'n ffrind Cylch Meithrin iddyn nhw. Chollodd o mo'r elfen fachgennaidd, ddireidus hyd y diwedd."
'Bwlch mawr ar ei ôl'
Mae sawl aelod blaenllaw o Blaid Cymru hefyd wedi talu teyrngedau ar Twitter, gan gydymdeimlo â'i deulu.
Dywedodd Dafydd Wigley: "Trist ofnadwy deall am farwolaeth fy hen gyfaill Ioan Roberts, Pwllheli, ffrind ers y dyddiau y buom ym Mhrifysgol Manceinion. Colled sylweddol i'r byd cyhoeddi Cymraeg."
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cafodd ei ddisgrifio gan Dafydd Iwan fel "cefnogwr creadigol i Blaid Cymru". Ychwanegodd y "bydd bwlch mawr ar ei ôl" a'i fod yn "awdur cynhyrchiol".
Dywedodd AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts: "Cenedlaetholwr a newyddiadurwr a fu'n gyfaill gweithgar i achos cenedl Cymru."
Roedd Ioan Roberts wedi ysgrifennu a golygu amryw o lyfrau ffeithiol a bywgraffiadau, gan gynnwys un yn olrhain profiadau ac atgofion Cymry ac Archentwyr yn ystod Rhyfel y Malvinas.
Ef hefyd wnaeth addasu sgyrsiau radio rhaglen Beti A'i Phobol er mwyn eu cyhoeddi rhwng dau glawr, a fe olygodd lyfr ar hanes y gyfres C'Mon Midffild.
Mae'n gadael gwraig, Alwena, a dau o blant, Sion a Lois.