Colled o £18.5m cyn treth i Faes Awyr Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr CaerdyddFfynhonnell y llun, Maes Awyr Caerdydd

Mae Maes Awyr Caerdydd wedi gwneud colled cyn treth o £18.5m - bron i deirgwaith yr uwch nag yn y flwyddyn flaenorol.

Yn ôl rheolwyr y safle, sydd ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru ers 2013, mae ffactorau economaidd byd-eang yn cael effaith ar y diwydiant hedfan, yn cynnwys newid hinsawdd, ansicrwydd ynghylch Brexit a chynnydd yng nghost tanwydd.

Ond mae trosiant y maes awyr yn y flwyddyn ariannol 2018-19 wedi codi bron £3m i £20.8m ac mae'r busnes wedi gweld twf am 15 mis yn olynol.

Dywed Llywodraeth Cymru bod y maes awyr yn cyfrannu £250m i'r economi.

Yn yr adroddiad blynyddol, fe nododd y cadeirydd tan ddiwedd Hydref, Roger Lewis mai "cyfyng" hyd yma fu effaith cwymp Thomas Cook ym mis Medi ar berfformiad 2019-2020, arweiniodd at "ddim ond" 16,000 yn llai o deithwyr.

Ond rhybuddiodd y bydd yna 150,000 yn llai o deithwyr yn y flwyddyn gyfredol oherwydd sefyllfa Thomas Cook, a bydd y maes awyr yn "chwilio am gyfleoedd" i ddenu cwmni arall yn ei le.

Dywedodd fod y maes awyr wedi llwyddo i ddenu teithwyr newydd, gan gynnwys 70,000 yn sgil teithiau Qatar Airways i ac o Doha yn 2018-2019, ac mae busnes Flybe wedi gweld cynnydd o 4%.

Hefyd fe gynigiodd cwmni Tui 100,000 o seddi ychwanegol yn nhymor yr haf eleni.

Roedd niferoedd teithwyr dros 1.5m erbyn Mai 2018 a haf 2018 oedd haf prysuraf y maes awyr mewn 10 mlynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r maes awyr wedi ymestyn y lolfa ymadael a gwella'r siopau a'r bwytai

Ysgrifennodd Mr Lewis: "Er roeddem yn falch i nodi twf parhaol sylweddol dros y cyfnod dan sylw, fe welsom hefyd arwyddion cynyddol o ffactorau economaidd byd-eang o bwys fel yr ansicrwydd sy'n mynd rhagddo ynghylch Brexit a gwendid cysylltiedig y bunt, newid hinsawdd a chostau tanwydd uwch yn effeithio ar y diwydiant hedfan."

Yn sgil yr ansefydlogrwydd economaidd, meddai, mae'r maes awyr wedi nodi gostyngiad o £9.3m yng ngwerth amcangyfrif asedau annirnad - pethau fel eiddo deallusol a chydnabyddiaeth brand.

Fodd bynnag mae'r mesur sy'n cymharu perfformiadau meysydd awyr yn nodi cynnydd sylweddol mewn enillion cyn llog a threthi.

Nododd yr adroddiad bod yna fuddsoddiad sylweddol ar ddiwedd y flwyddyn 2017-2018, gan gynnwys cynyddu a gwella llefydd aros, siopa a bwyta i deithwyr, a bod y busnes "yn parhau i elwa" o'u herwydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ers i ni feddiannu Maes Awyr Caerdydd, mae niferoedd teithwyr wedi cynyddu 70%.

"Mae'r maes awyr yn cyfrannu £250m i economi Cymru bob blwyddyn ac yn cynnal tua 2,400 o swyddi'r diwydiant hedfan."