Angen 550 o deuluoedd maeth yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae elusen Y Rhwydwaith Maethu yn amcangyfrif bod angen 550 o deuluoedd maeth yng Nghymru er mwyn ateb y galw cynyddol.
Bu cynnydd o 35% yn nifer y plant sydd mewn gofal maeth dros y degawd diwethaf, gyda bron 5,000 dan ofal maeth yn 2019.
Ond mae'n Rhwydwaith Maethu hefyd yn dweud fod 13% o ofalwyr maeth yn gadael y gwasanaeth bob blwyddyn.
Y nod ganddyn nhw yw recriwtio 550 o deuluoedd maeth newydd yn ystod 2020.
Er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r broblem mae wyth o awdurdodau lleol ar draws Cymru wedi lansio ymgyrch #20Rheswm sy'n ceisio annog pob i ystyried dod yn rhieni maeth.
Mae'r ymgyrch yn defnyddio rhieni maeth go iawn sy'n sôn am eu rhesymau dros fod yn rhieni maeth ac yn ceisio ysbrydoli eraill i ystyried gofalu am blentyn neu berson ifanc.
Mae'r 20 rheswm yn amrywio - yn eu plith gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn drwy gynnig cariad a diogelwch a sicrhau eu bod yn gallu aros yn eu hardal leol fel eu bod yn medru aros yn yr un ysgol ac yn agos at eu ffrindiau.
Mae angen rhieni maeth o bob math, ond yn enwedig rhai fyddai'n ystyried maethu pobl ifanc yn eu harddegau, grwpiau o frodyr neu chwiorydd a phlant gydag anghenion ychwanegol.
Mae Tammy Hale , 36 oed, o Sir Fynwy yn un o'r gofalwyr maeth sy'n cefnogi'r ymgyrch. Bu'n ofalwr maeth am bron i saith mlynedd.
Ar ôl blynyddoedd o geisio dechrau teulu eu hunain, fe ddewisodd Tammy a'i phartner droi at faethu.
'Dim teimlad gwell'
Dywedodd: "Fe sylweddolais i fod cymaint o blant angen cartref cariadus a bod gen i gymaint o gariad i gynnig, ac roedd e'n gwneud synnwyr mai dyma sut y gallwn ni ddechrau teulu.
"Mae gen i berthynas agos iawn gyda phob un o'r plant dwi wedi'u maethu. Mae un ohonyn nhw yn 17 oed a ddim yn byw gyda ni rhagor, ond yn dal i ddod draw am ginio dydd Sul bob wythnos.
"Mae ein plant maeth ar hyn o bryd yn ein galw ni'n 'mam a dad', a does dim teimlad gwell na hynny."
Mae'r elusen yn gofyn i unrhyw un sy'n ystyried maethu, neu sydd am gael mwy o wybodaeth, i gysylltu gyda'u cyngor sir lleol.
#20Rheswm i faethu yn 2020:
1. Gallwch helpu plentyn sydd â chefndir anodd;
2. Byddwch yn adeiladu dyfodol positif;
3. Gallwch helpu plentyn i gyrraedd ei lawn botensial;
4. Mae maethu yn werth chweil ac yn anhygoel;
5. Gallwch gyfarfod â phobl ofalgar eraill - fel chi;
6. Gallwch wneud gwahaniaeth yn lleol;
7. Dewiswch sut fath o faethu fyddai orau i chi;
8. Helpwch i gadw plentyn yn eu hysgol;
9. Datblygwch sgiliau newydd a chael cymwysterau;
10. Byddwch yn gwneud gwahaniaeth sy'n para oes;
11. Mae'n ffordd wahanol o dyfu eich teulu;
12. Dewch yn rhan o'n rhwydwaith maethu;
13. Byddwch yn fodel rôl positif;
14. Mae caredigrwydd yn teimlo'n dda;
15. Mae plant a phobl ifanc lleol dirfawr angen cartref;
16. Byddwch yn gwella hyder plentyn;
17. Gallwch newid gyrfa;
18. Byddwch yn rhoi cyfle mewn bywyd i blentyn;
19. Mae maethu yn rhoi persbectif newydd i chi;
20. Byddwch yn rhoi ymdeimlad o berthyn i blentyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2019
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2018