Cyn-chwaraewr Caerdydd, Chris Barker wedi marw yn 39 oed

  • Cyhoeddwyd
Chris Barker (dde) yn chwarae i Gaerdydd yn erbyn Robin Van Persie ac Arsenal yn 2006Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chris Barker (dde) yn chwarae i Gaerdydd yn erbyn Robin van Persie ac Arsenal yn 2006

Mae cyn-amddiffynnwr Caerdydd, Chris Barker wedi marw yn 39 oed.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi dod o hyd i gorff dyn mewn cartref yn ardal Cyncoed y brifddinas tua 14:00 ar Ddydd Calan.

Ychwanegodd yr heddlu nad oedden nhw'n trin y farwolaeth fel un amheus.

Fe chwaraeodd Barker dros 500 o gemau cynghrair, gan gynrychioli'r Adar Gleision rhwng 2002 a 2007.

Chwaraeodd hefyd dros Barnsley, Queens Park Rangers, Plymouth Argyle, a Southend.

'Dyn ffyddlon, dibynadwy'

Mewn trydariad, dywedodd asiantaeth chwaraeon World in Motion fod Barker yn gyn-gleient i'r cwmni a'i fod wedi cael "gyrfa eithriadol fel chwaraewr".

"Yn fwy na hynny, roedd Chris yn berson rhyfeddol, yn ŵr bonheddig ac yn bleser i weithio ag o," ychwanegodd y neges.

Yn dilyn ei farwolaeth, dywedodd cyn-gapten Caerdydd, Darren Purse ar Twitter: "Yn deffro bore 'ma i'r newyddion ofnadwy nad yw Chris Barker gyda ni mwyach.

"Dyn a oedd yn gweithio'n galed, yn ffyddlon a dibynadwy, a bydd colled mawr ar ei ôl. Cwsg yn dawel Barks."