Teyrnged teulu wedi gwrthdrawiad ar yr A55 nos Galan
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau enw'r dyn fu farw wedi gwrthdrawiad ar yr A55 yn Ynys Môn nos Galan.
Roedd Gwynfor Hywel Jones yn 64 oed ac yn dod o'r Fali.
Mr Jones oedd gyrrwr car Vauxhall Mokka du oedd mewn gwrthdrawiad gyda lori ar lôn ddwyreiniol yr A55 ger Cyffordd 4 ger Caergeiliog.
Dywedodd ei deulu mewn datganiad: "Rydym yn torri ein calonnau yn dilyn marwolaeth sydyn ein tad annwyl.
'Ei golli yn ddirfawr'
"Roedd yn daid annwyl i'w saith o wyrion a bydd colled i'w frodyr a'i chwiorydd ar ei ôl. Mae hefyd yn gadael mam a thad cariadus.
"Roedd wrth ei fodd gyda lorïau a bu'n yrrwr lori HGV drwy ei oes.
"Bydd ei deulu a'i ffrindiau yn ei golli yn ddirfawr ac yn gwerthfawrogi preifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad tua 23:53 nos Fawrth, 31 Rhagfyr.
Dywedodd y Sarjant Darren Newby o Uned Plismona'r Ffyrdd eu bod yn dal eisiau clywed gan unrhyw un a fu'n dyst i'r gwrthdrawiad, neu oedd "yn teithio yn yr ardal gyda thystiolaeth ar gamera cerbyd".
X188098 yw cyfeirnod yr achos ac mae modd cysylltu â'u heddlu ar-lein neu drwy ffonio 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2020