Risg i eogiaid wrth i afonydd Cymru gynhesu

  • Cyhoeddwyd
EogFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae llai o eogiaid yn bwrw'u grawn yn afonydd Cymru

Mae eogiaid yn gadael afonydd Cymru gan fod newid hinsawdd yn golygu fod y dŵr yn rhy gynnes, medd arbenigwyr.

Mae llai o wyau eog yn cael eu silio, a dros y blynyddoedd diweddar does dim eogiaid ifanc wedi eu canfod yn y rhan fwyaf o afonydd Cymru.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru (YAGC), mae pysgod dŵr oer fel eogiaid angen i'r dŵr fod ar dymheredd o 8C neu lai er mwyn iddyn nhw fedru bwrw'u grawn.

Dywedodd Dave Charlesworth o CNC bod y boblogaeth eogiaid "mewn perygl" ond y gallai cysgodi afonydd liniaru'r broblem.

"Yn 2015 ni ddaeth tymheredd dŵr afonydd i lawr i 8C yn y gaeaf," meddai.

"Roedd pryder mawr am weithgaredd silio, ac yn y flwyddyn ganlynol fe welson ni bron ddim eog ifanc yn afonydd Cymru.

"Mae hyn yn golygu fod y boblogaeth mewn perygl yn y rhan fwyaf o afonydd Cymru.

"De Cymru - a rhannau deheuol y DU - yw'r lle mwyaf deheuol lle gwelwch chi'r rhywogaeth felly mae effaith newid hinsawdd yn cael ei deimlo nawr."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ieuan Davies bod yr ymddiriedolaeth yn plannu coed yn strategol

Mewn ymgais i oeri'r dŵr, mae YAGC, CNC a Dŵr Cymru wedi lansio ymgyrch i blannu coed ger y mannau lle mae eogiaid yn bwrw'u grawn.

Dywedodd swyddog pysgodfeydd YAGC, Ieuan Davies: "Ry'n ni'n edrych ar gynnydd mewn tymheredd awyr o rhwng dwy a phedair gradd ar gyfartaledd dros y degawd neu ddau nesaf, felly mae'n bwysig bod ardaloedd lle mae pyllau ac isafonydd yn cael eu gwarchod rhag goleuni llawn yr haul.

"Ry'n ni'n plannu'r coed yma yn strategol ar hyd yr afonydd er mwyn cysgodi'r pyllau. Bydd hyn yn help mawr.

"Bydd y pysgod yn gorffwys yn y pyllau a chael ychydig o gysgod yna."

Disgrifiad o’r llun,

Elsie Procter-Jones ger afon Sawdde

Rhan arall o'r ymgyrch yw annog cymunedau lleol i 'fabwysiadu afon', gan gasglu sbwriel plastig a chynorthwyo i blannu coed.

Dywedodd Elsie Procter-Jones, sy'n byw ger afon Sawdde - isafon sy'n llifo i mewn i afon Tywi - ei bod hi a'i ffrindiau wedi gwirfoddoli i gynorthwyo gyda'r gwaith.

"Dydw i ddim yn credu bod y mwyafrif yn sylweddoli beth sy'n digwydd. Mae hyn yn bwysig dros ben," meddai.