A fydd 2020 yn flwyddyn y ceir hydrogen yng Nghymru?
- Cyhoeddwyd
Doedd 2019 ddim yn flwyddyn dda i'r diwydiant ceir ym Mhrydain - roedd gwerthiant cerbydau newydd oddeutu 3% yn is na'r flwyddyn flaenorol, ac ar ei lefel isaf ers 2013.
Ond yng nghanol y tywyllwch roedd peth goleuni, ac arwyddion positif o ran gwerthiant cerbydau tanwydd amgen.
Ym mis Hydref roedd 10% o'r ceir a werthwyd naill ai'n gerbydau hybrid neu'n rhai trydan. Roedd gwerthiant ceir cyfan gwbl trydan wedi treblu i fwy na 3,000.
Beth sydd ar y gweill yn 2020 felly i fodurwyr yng Nghymru sy'n chwilio am ffordd o leihau eu hôl troed carbon?
Heriau o hyd
Yn ôl y newyddiadurwr moduro Mark James mae angen i rai pethau newid i wneud ceir trydan yn fwy deniadol.
"Rwy'n credu bod angen i dri pheth ddigwydd cyn i brynwyr ystyried newid i gar trydan - mae angen i brisiau ddod i lawr, mae angen i fatris wella ond hefyd mae angen i'r seilwaith wella fel nad yw gyrwyr yn poeni ble fyddan nhw'n gallu gwefru'r car," meddai.
"Yng Nghymru, yn draddodiadol, mae pethau wedi bod yn eitha da o ran llefydd i wefru ar hyd yr M4 a'r A55 ond ddim llawer yn y canol. Ac rwy'n credu mai dyna lle mae angen i gwmnïau a Llywodraeth Cymru edrych."
Ar fferm ger Talybont yng Ngheredigion mae gan deulu Rhodri Lloyd-Williams gynllun ynni dŵr. Ers dwy flynedd maen nhw'n defnyddio'r trydan i wefru eu car.
"Mae'n hyfryd i yrru, mae'n gyflym, mae'n hawdd," meddai Rhodri.
"Gyda'r cynllun hydro ni'n chargo'r car o'r afon i bob pwrpas felly does dim bil ar gyfer y tanwydd fel oedd gennym ni gyda'r hen gar diesel."
Tra bod Rhodri a'r teulu yn hapus gyda'r car, maen nhw'n gweld gwendidau o ran yr isadeiledd i gefnogi gyrwyr ceir trydan - yn enwedig yn y canolbarth, lle mae diffyg pwyntiau gwefru.
"Trwy wneud ymchwil cyn prynu'r car fe wnaethon ni sylweddoli mai'r canolbarth a Cheredigion yw'r llefydd gwaethaf ym Mhrydain i berchen car trydan oherwydd y diffyg llefydd i chargo," meddai.
"Mae gan ucheldir yr Alban fwy o lefydd gwefru na Cheredigion.
"Mae pethau wedi gwella ac mae rapid charger nawr yn siop y Cletwr yn Nhre'r-ddôl, ond does dim un cyhoeddus ar gael yng nghanol Aberystwyth. Mae'n sefyllfa siomedig."
Dyfodol i hydrogen?
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r rhwydwaith o bwyntiau gwefru yng Nghymru yn gwella, ac fe fyddan nhw'n gweithio gyda'r sector preifat i sicrhau bod rhai yn cael eu sefydlu.
"Bydd trafnidiaeth carbon isel yn chwarae rhan bwysig yn y ffordd yr ydym yn ymateb i'r argyfwng hinsawdd," meddai llefarydd.
"Bellach mae mwy na 900 o bwyntiau gwefru hygyrch yng Nghymru, cynnydd o 670 ers mis Ebrill 2019.
"Rydym yn buddsoddi £29m i gefnogi'r newid i gerbydau allyriadau isel a £2m mewn seilwaith ar gyfer cefn gwlad Cymru."
Ond nid oes rhaid i gerbydau trydan ddibynnu ar fatri y gellir ei ailwefru. Mae Riversimple - cwmni wedi'i leoli yn Llandrindod ym Mhowys - wedi datblygu car trydan sy'n cael ei bweru gan gell tanwydd hydrogen.
Dywed Hugo Spowers, a ffurfiodd y cwmni 18 mlynedd yn ôl, fod y gell danwydd yn creu trydan mewn proses a ddisgrifir fel electrolysis tu chwith - mae hydrogen o danc y tu mewn i'r car yn cyfuno gydag ocsigen o'r aer i greu trydan, a'r cyfan sy'n cael ei ryddhau o'r egsost yw dŵr.
Mae'r tanc hydrogen yn cael ei lenwi yn yr un ffordd ag y mae car confensiynol yn cael ei lenwi gyda phetrol neu diesel.
"Rydyn ni'n credu'n llwyr fod yna rôl i hydrogen a batris," meddai Mr Spowers.
"Ond yn y tymor hir, dw i'n credu y bydd hydrogen yn cipio rhan fwya'r farchnad oherwydd mae ganddo'r holl fanteision sydd gan betrol a diesel o allu ail-lenwi'n gyflym, a chaniatau i chi wneud teithiau hirach.
"Mae cerbydau batri yn wych ar gyfer teithiau byr ac rydyn ni eu hangen nhw. Ond unwaith y byddwch chi'n ceisio creu car trydan sy'n gallu teithio'n bellach, mae angen mwy o fatris arnoch chi ac maen nhw'n drwm iawn, ac felly yn llai effeithlon."
Yng ngweithdy Riversimple yn Llandrindod mae dau gar yn cael eu hadeiladu ar gyfer Cyngor Sir Fynwy yn y gwanwyn. Mae yna orsaf llenwi hydrogen eisoes yn Y Fenni ac mae Hazel Clatworthy, swyddog polisi cynaladwyedd y cyngor, yn dweud eu bod yn gefnogol iawn i'r dechnoleg.
"Mae argyfwng hinsawdd ac mae'n bwysig i'r cyngor i wneud llawer o bethau i leihau ei ôl-troed carbon," meddai.
"Ry'n ni'n edrych ymlaen at ddechrau'r cynllun peilot gyda Riversimple.
"I ddechrau fe fydd gan Gyngor Sir Fynwy ddau gar hydrogen - ond yn y dyfodol gobeithio bydd 20 o geir ar gyfer aelodau'r cyhoedd a staff."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2016
- Cyhoeddwyd2 Medi 2018
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2019