Cyhuddo dyn o geisio llofruddio wedi gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Stryd Fawr, Blaina
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y dyn 33 oed ei gludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad ar Stryd Fawr, Blaina

Mae dyn 25 oed wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a cherddwr ym Mlaenau Gwent.

Cafodd dyn 33 oed ei gludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad ar Stryd Fawr, Blaina toc wedi 00:30 ar fore Iau, 2 Ionawr.

Dywedodd Heddlu Gwent fod y dyn gafodd ei daro mewn cyflwr sefydlog.

Mae Ieuan Ward - dyn lleol 25 oed - wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio ac fe ymddangosodd yn y Llys Ynadon Casnewydd ddydd Sadwrn.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa nes ei ymddangosiad llys nesaf.