Ymgyrchwyr yn galw am atal y gwaith ar losgydd Y Barri

  • Cyhoeddwyd
Llosgydd Y Barri
Disgrifiad o’r llun,

Yn wreiddiol rhoddodd Cyngor Bro Morgannwg ganiatâd cynllunio i'r llosgydd yn 2015

Mae ymgyrchwyr am weld y gwaith ar losgydd dadleuol yn Y Barri yn dod i ben yn sgil diffygion honedig yn y broses gynllunio.

Maen nhw'n dadlau y dylai'r cynlluniau fod wedi'u dynodi yn "ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol".

Byddai hynny'n golygu mai gweinidogion Llywodraeth Cymru - yn hytrach na'r cyngor lleol - fyddai'n gyfrifol am gymeradwyo'r prosiect.    

Mae'r datblygwyr - Biomas Y Barri - wedi gwrthod yr honiadau.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud wrth BBC Cymru ei bod yn ymwybodol o'r materion sy'n poeni ymgyrchwyr ac y bydd yn ymateb maes o law.

Torri trwydded amgylcheddol

Mae tynged safle biomas Y Barri wedi bod yn ansicr ers blynyddoedd er ei fod wedi'i adeiladu ac yn barod i weithredu yn ôl rheolwyr.

Yn wreiddiol, rhoddodd Cyngor Bro Morgannwg ganiatâd cynllunio iddo yn 2015, cyn i gais arall am addasiadau i'r safle gael ei gyflwyno yn 2017.

Ond yn dilyn cwynion am lwch, arogleuon a sŵn yn ystod profion yn 2018, cafodd y datblygwyr rybudd gan Gyfoeth Naturiol Cymru bod "sawl achos" wedi bod o dorri trwydded amgylcheddol y safle.

Mae'r penderfyniad ynglŷn â thaliadau cymhorthdal i'r llosgydd hefyd wedi'i ohirio.

Ffynhonnell y llun, Ade Pitman
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y safle yn Y Barri yn llosgi pren ar dymheredd uchel er mwyn cynhyrchu trydan

Bellach mae grŵp ymgyrchu gafodd ei sefydlu i wrthwynebu'r datblygiad yn dweud bod mater arall posib wedi codi.

Yn sgil rheoliadau newydd gafodd eu cyflwyno yn 2016, mae prosiectau ynni yng Nghymru sy'n cynhyrchu dros 10MW o drydan yn cael eu nodi fel rhai sydd o arwyddocâd cenedlaethol.

Mae'n golygu mai Arolygiaeth Gynllunio Cymru - nid cynghorau lleol - sy'n delio â cheisiadau cynllunio, gyda Llywodraeth Cymru'n gwneud y penderfyniad terfynol.

Yn ddiweddar, cyflwynwyd cynlluniau ar gyfer llosgydd newydd ym mharc busnes yng Nghaerdydd sy'n gallu cynhyrchu 15MW o drydan, o dan gynllun datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol.

'Atal y gwaith yn llwyr'

Yn ôl Max Wallis o Gyfeillion y Ddaear, dylai'r datblygiad biomas yn Y Barri gael ei drin yn yr un modd gael ei fod yn gallu cynhyrchu dros 10MW o ynni.

"Dylai unrhyw waith ychwanegol ar y broses gynllunio ddod i ben yn syth nes bod cais cywir wedi ei gyflwyno, ac ar ben hynny dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau er mwyn atal y gwaith yn llwyr am y tro," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Max Wallis y dylid atal y gwaith ar y llosgydd nes bod cais cynllunio newydd yn cael ei gyflwyno

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dweud nad yw'r cais cynllunio o 2017 wedi ei gymeradwyo eto wrth iddo aros am benderfyniad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r angen am asesiad amgylcheddol lawn o'r cynllun.

Yn ôl Llywodraeth Cymru fe fydd yn ymateb i bryderon y grŵp ymgyrchu maes o law.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau y byddai'r safle yn gallu cynhyrchu 10MW o ynni adnewyddadwy er mwyn ei drosglwyddo i'r Grid Cenedlaethol.

Dywedodd Biomas Y Barri fod yr holl geisiadau cynllunio wedi eu cwblhau yn briodol.