Dechrau ar flwyddyn o hybu gweithgareddau awyr agored
- Cyhoeddwyd
Mae profiadau awyr agored "newydd ac unigryw" yn cael eu rhestru ymhlith y rhesymau i ymweld â Chymru eleni, wrth i Croeso Cymru lansio'i brif ymgyrch farchnata flynyddol.
Bydd gig tanddaearol unigryw yn un o brif atyniadau'r gogledd ddiwedd Chwefror yn nodi dechrau dathliad Blwyddyn yr Awyr Agored - y pumed flwyddyn i'r corff ddefnyddio thema benodol i hybu diwydiant ymwelwyr Cymru.
Hefyd bydd ysgol y camp dŵr eFoil gyntaf Cymru yn agor ym Mhorthaethwy ym mis Ebrill a bydd Gŵyl Antur newydd yn cael ei chynnal yn Nyffryn Conwy ym mis Medi.
Dywed Croeso Cymru bod profiadau o'r fath yn "dathlu'r llefydd awyr agored amrywiol a hardd sydd gan y wlad i'w cynnig a chadarnhau ymhellach safle 'Gogledd Cymru' fel prifddinas antur Ewrop".
Mae trefnwyr yr ymgyrch yn gobeithio "annog rhagor o bobl yng Nghymru i gofleidio'r awyr agored a gwneud 2020 y flwyddyn y maent yn archwilio'r parciau cenedlaethol, mynyddoedd, arfordir a Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO sy'n siapio diwylliant a hunaniaeth Cymru".
Mae rheolwyr atyniad Zip World Bounce Below ym Mlaenau Ffestiniog yn dweud eu bod yn "gyffrous iawn" i gynnal eu gig byw gyntaf erioed fel rhan o'r ymgyrch.
Dim ond 80 o docyn fydd ar gael i weld y cantoresau Kizzy Crawford a Bryde, a'r grŵp Alffa yn perfformio mewn ogof ar 29 Chwefror a bydd rhaid ceisio am rheiny mewn raffl rhwng 17 a 31 Ionawr.
Dywedodd Andrew Hudson, cyfarwyddwr masnachol Bounce Below, bod eleni'n flwyddyn arwyddocaol i'r busnes, sy'n bwriadu agor atyniad newydd yng Nghwm Cynon yn y de.
"Hwn fydd ein lleoliad cyntaf y tu allan i ogledd Cymru," meddai. "Rydyn ni am wneud dros gymunedau glo Cymru yn ne Cymru'r hyn rydyn ni wedi'i wneud dros lechi Cymru yng ngogledd Cymru a chreu cyfleoedd twristiaeth i'r ardal leol."
O fis Ebrill bydd modd i bobl roi cynnig ar ffordd wahanol o deithio ar hyd y Fenai, wrth i'r cwmni lleol RibRide gynnig sesiynau eFoil - bwrdd syrffio gyda modur trydan sy'n hedfan uwchben adain hydrofoil.
Ychydig iawn o lefydd trwy Ewrop sy'n cynnig technoleg hydrofoil sy'n galluogi'r defnyddiwr i "hedfan uwchben dŵr" gyda "dim ond ychydig o gydbwysedd".
Dywedodd Tom Ashwell, cyd-sylfaenydd RibRide: "Rydyn ni bob amser yn edrych ar ffyrdd i ehangu ar yr hyn rydan ni'n eu cynnig i ymwelwyr, wrth ganolbwyntio ar gynaliadwyedd ar yr un pryd.
"Gellir dysgu hydrofoil mewn un wers yn unig, felly mae'n weithgaredd gwyliau perffaith."
Bydd Parc Antur Eryri yn Nolgarrog, Sir Conwy yn llwyfannu ei Ŵyl Antur gyntaf erioed rhwng 25 a 27 Medi.
Bydd y digwyddiad yn rhoi sylw i anturiaethau ar ac oddi ar y safle, ac yn cynnwys sesiynau blasu, gweithdai a dosbarthiadau meistr yn ogystal â darlithoedd, ffilmiau a cherddoriaeth.
"Mae gogledd Cymru yn cael ei ystyried yn un o gyrchfannau mwyaf cyffrous Ewrop ar gyfer pob math o anturiaethau," meddai Andy Ainscough, rheolwr gyfarwyddwr Parc Antur Eryri.
"Bydd ein gŵyl antur yn dod â phobl o'r un anian ynghyd i archwilio ein tirweddau gwych, i ymgymryd â heriau newydd, a chychwyn ar eu hanturiaethau newydd eu hunain."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2017