Llandeilo i helpu cymuned Llandilo, Awstralia wedi tanau

  • Cyhoeddwyd
LlandiloFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Diffoddwyr tân yn gweithio ynghanol y dinistr yn Llandilo, New South Wales

Mae pobl Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin wedi penderfynu codi arian ar gyfer cymuned fechan sydd wedi cael ei tharo gan y tanau gwyllt yn Awstralia.

Mae diffoddwyr rhan amser Llandilo, un o faestrefi Sydney, wedi bod yn rhan o'r ymdrechion i geisio diffodd y fflamau sydd wedi rheibio rhannau o New South Wales, y dalaith sydd wedi ei tharo waethaf.

Y gred yw bod cymuned Llandilo wedi ei henwi ar ôl tref Llandeilo rhywbryd yn y 1860au.

Mae 6.3m hectar o dir a fforestydd wedi cael eu dinistrio gan y tannau sydd wedi llosgi ers mis Medi.

Mae'r fflamau wedi dwysau yn sgil tymheredd o 40 gradd selsiws a gwyntoedd cryfion.

Mae Cyngor Tref Llandeilo wedi cyfrannu at yr ymdrechion i godi arian, gyda disgyblion o Ysgol Teilo Sant yn bwriadu codi arian hefyd.

Fe fydd diffoddwyr tân rhan amser tref Llandeilo hefyd yn codi arian trwy nifer o ddigwyddiadau penodol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 27 o bobl wedi marw ar draws Awstralia o ganlyniad i'r tanau

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae llawer o'r diffoddwyr tân yn Llandilo yn gweithio'n rhan amser

Yn ôl Maer Llandeilo, Owen James, mae yna gysylltiad cryf rhwng y ddwy gymuned, a dyhead i roi help llaw i bobl yr ardal.

"Ar ôl gweld beth oedd yn mynd 'mlaen, a gweld dynion a menywod tân rhan amser yw nhw yn 'neud lot i helpu'r achos - ma' fe'n serious.

"Ni wedi bod yn edrych sut i godi arian ar gyfer yr achos. Mae Cyngor Tref Llandeilo wedi codi £100 neithiwr yn y cyfarfod, a ni'n gobeithio codi mwy o arian yn y dref i ariannu unrhyw beth sydd angen."

Yn ôl y Cynghorydd James, mae'r ffaith taw diffoddwyr tân rhan amser sydd yn y ddau le wedi annog pobl i godi arian.

"'Na gyd maen nhw eisiau gwneud yw cadw pobl yn saff," meddai. "Ni ar yr un blaned a dylen ni gadw'r cysylltiad a helpu ein gilydd."