Colegau yn 'arswydo' am beidio parhau cynllun Erasmus

  • Cyhoeddwyd
Disgyblion a chynrychiolwyr o'r gymdeithas
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd disgyblion o wledydd eraill gyfle i glywed am sefydliadau sy'n defnyddio'r Gymraeg drwy un o brosiectau Erasmus+

Mae ColegauCymru wedi ymateb yn chwyrn i bleidlais yn San Steffan sydd, meddai'r mudiad, yn peryglu parhâd cynllun Erasmus+ yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru.

Yn ogystal, maen nhw'n honni bod Llywodraeth y DU yn rhwystro symudedd myfyrwyr drwy beidio ymrwymo i drafod aelodaeth lawn o'r cynllun yn y dyfodol.

Mae cynllun Erasmus+ yn gynllun addysgol sy'n caniatáu i fyfyrwyr o'r DU dreulio cyfnodau mewn prifysgolion eraill ar draws Ewrop.

Mae elfen alwedigaethol Erasmus+ yn galluogi dysgwyr a phrentisiaid i dreulio pythefnos ar leoliad gwaith yng ngwledydd Ewrop.

Mae'r cyfleoedd yma'n amrywio o arlwyo a pheirianneg i gynorthwyo mewn cysegr morloi.

Mae'r rhaglen hefyd yn ariannu prosiectau arbennig, gan gynnwys rhai am ieithoedd lleiafrifol.

Disgrifiad o’r llun,

Iestyn Davies yw prif weithredwr ColegauCymru

Byddai gwelliant i Fesur Ymadael yr Undeb Ewropeaidd wedi ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU geisio negodi aelodaeth lawn barhaus o raglen addysg ac ieuenctid Erasmus+ yr UE,

Ond cafodd y gwelliant ei drechu yr wythnos hon o 344 pleidlais i 254.

Yn ôl Llywodraeth y DU dydy'r bleidlais ddim yn newid yr ymrwymiad i barhau â'r berthynas academaidd rhwng Prydain a'r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys trwy Erasmus.

'Arswydo yn y penderfyniad'

Ond mae prif weithredwr ColegauCymru, Iestyn Davies yn bryderus am y penderfyniad.

"Rwy'n arswydo yn y penderfyniad i ddiystyru ceisio aelodaeth lawn barhaus o gynllun Erasmus+," meddai.

"Yn ei hanfod, mae hyn yn rhwystro dysgwyr a myfyrwyr addysg bellach rhag cymryd rhan mewn rhaglen a gydnabyddir yn rhyngwladol.

"Hyd yn hyn mae prosiectau Erasmus+ ColegauCymru wedi galluogi bron i 2,000 bobl ifanc o bob rhan o Gymru, i elwa o'r cyfleoedd hyn sy'n newid bywydau.

"Mae eu gwadu i genedlaethau'r dyfodol yn drasiedi wirioneddol ac yn gwrth-ddweud unrhyw ymdeimlad o 'Brydain Fyd-eang'.

"Rwy'n ceisio cael cyfarfod brys gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, i ddeall yn union pam ei fod ef a'i gydweithwyr yn teimlo na allant gefnogi dysgwyr o Gymru i barhau i gael mynediad at leoliadau gwaith galwedigaethol yn Ewrop.

"Byddwn hefyd eisiau gwybod pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth y DU i gynnig cynllun amgen a fydd yn cyfateb i lefel y cyllid y mae ColegauCymru wedi'i gyrchu gan Erasmus+ ar gyfer dysgwyr yng Nghymru - yn agos at €5m ers lansio Erasmus+ yn 2014.

"Wrth i ni ddechrau degawd newydd, rhaid peidio anfanteisio cenedlaethau o ddysgwyr o Gymru yn y dyfodol. Bydd penderfyniadau a wneir nawr yn effeithio ar ein dysgwyr yn y degawdau i ddod."