Galw am sicrhau dyfodol myfyrwyr wedi Brexit

  • Cyhoeddwyd
Cardiff UniversityFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prifysgol Caerdydd yn un o wyth prifysgol yng Nghymru

Mae undeb sy'n cynrychioli myfyrwyr yng Nghymru wedi galw ar brif weinidog y DU i osgoi Brexit heb gytundeb.

Mewn llythyr agored at Theresa May mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru wedi galw arni i sicrhau Brexit "sy'n osgoi yr effeithiau gwaethaf".

Mae UCM Cymru hefyd wedi cefnogi cael refferendwm ar delerau terfynol Brexit.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud mai dod i gytundeb gyda'r UE yw'r "brif flaenoriaeth".

Parhad Erasmus+?

Ddydd Iau fe gyhoeddodd swyddogion yn San Steffan eu cynlluniau diweddaraf petai yna Brexit heb gytundeb.

Eisoes mae Mrs May wedi rhoi ei chefnogaeth i barhau â chynlluniau cyfnewid Erasmus+ tan o leiaf 2020 os yw trafodaethau Brexit yn parhau fel y disgwyl.

Os nad yw'r DU a'r UE yn dod i gytundeb mae Llywodraeth y DU wedi addo cyllido ymgeiswyr o'r DU sydd wedi cyflwyno ceisiadau llwyddiannus cyn 29 Mawrth 2019.

Mae UCM Cymru, sy'n cynrychioli 350,000 o fyfyrwyr, am i'r llywodraeth sicrhau bod gan y DU fynediad i gynllun Erasmus+ ac unrhyw gynllun arall wedi 2020.

Ffynhonnell y llun, Benny J Johnson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwyneth Sweatman, llywydd UCM Cymru, yn dweud bod angen i bobl gael pleidlais ar gytundeb terfynol Brexit

Tra'n poeni am fethiant Llywodraeth y DU i ddod i gytundeb, mae undeb y myfyrwyr hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio ar frys os yw'n bosib i fyfyrwyr barhau i fod yn rhan o gynlluniau Erasmus+ a chynlluniau tebyg.

Mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylai Cymru fod yn rhan o gynlluniau o'r fath.

Dywedodd Gwyneth Sweatman, Llywydd UCM Cymru: "Mae cynlluniau fel Erasmus+ yn rhoi cyfleoedd sy'n gallu newid bywydau myfyrwyr wrth iddynt gael y cyfle i weithio ac astudio dramor.

"Wrth i wleidyddion oedi mae'n mynediad i gynlluniau o'r fath yn y fantol.

"Rwy'n galw ar wleidyddion i sicrhau ein bod yn osgoi effeithiau gwaethaf Brexit."

Yn ystod yr haf fe gyhoeddodd Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams, y bydd myfyrwyr o'r UE sy'n dechrau ar eu cwrs ym mhrifysgolion Cymru yn 2019 yn talu yr un ffioedd â myfyrwyr eraill ac y byddant yn parhau i gael yr un gefnogaeth.

Wrth i'r ansicrwydd barhau mae UCM Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i siarad â gweinidogion San Steffan er mwyn sicrhau dyfodol myfyrwyr wedi 2020.