Cogydd yn ymladd achos alltudio

  • Cyhoeddwyd
Saiful IslamFfynhonnell y llun, Gwyneth Rees
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Saiful Islam, 44, symud i'r DU yn 2003

Mae cogydd o Fangladesh yn ymladd gorchymyn i'w alltudio o'r DU ar ôl iddo gael ei enwi ar gam fel troseddwr rhyw.

Fe wnaeth Saiful Islam, 44, sy'n byw yng Nghaerdydd symud i'r DU yn 2003 i weithio mewn bwyty.

Ond cafodd dogfennau amdano eu cymysgu gyda dogfennau tri o bobl eraill gan arwain iddo gael ei labelu ar gam fel troseddwr.

Mae'r Swyddfa Gartref wedi ymddiheuro i Mr Islam ond fe wnaeth y cogydd golli ei hawl i aros yn y DU yn Rhagfyr 2019.

Yn ôl arolwg barnwrol, ni wnaeth camgymeriadau'r Swyddfa Gartref effeithio ar y penderfyniad i wrthod cais Mr Islam i aros yma.

Dywedodd yr arolwg barnwrol fod y penderfyniad wedi ei seilio ar y ffaith fod methiant y cais yn 2008 wedi ei wneud oherwydd nad oedd ganddo drwydded gwaith.

Parhau i frwydro

Fe wnaeth y barnwr Jackson benderfynu fod yna "nifer o wallau" ac "anghyfiawnderau hanesyddol" wrth ymdrin ag achos Mr Islam, ond ychwanegodd nad oedd y dystiolaeth yn cefnogi honiad Mr Islam fod hyn wedi effeithio yn uniongyrchol ar ei sefyllfa.

Dywedodd Mr Islam ei fod yn bwriadu parhau a'i frwydr i aros yn y DU.

Dywedodd y Swyddfa Gartref nad oeddynt yn gallu gwneud sylw pellach oherwydd bod achos cyfreithiol yn parhau.

Maen nhw'n dweud fod achosion i aros yn y DU yn cael eu hasesu yn unigol, gan ddilyn rheolau mewnfudo "a pan nad oes gan rywun hawl i aros yn y DU mae disgwyl iddynt adael yn wirfoddol."

Dywedodd Mr Islam, sy wedi bod yn ymladd i aros yn y DU am 16 o flynyddoedd: "Rwyf wedi colli gymaint o flynyddoedd, fy iechyd ac arian."