Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-0 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Caerdydd atal gobeithion Abertawe o fod y cyntaf erioed o'r ddau dîm i ennill y ddwy gêm ddarbi mewn un tymor.
Di-sgôr oedd hi yn Stadiwm Caerdydd - gyda'r ddau dîm wedi cwrdd 62 o weithiau yn y cynghrair mewn cyfnod o 108 o flynyddoedd.
Bu cyfleoedd - gyda Bersant Celina o Abertawe yn taro'r postyn, hynny cyn i Callum Paterson benio yn erbyn y bar i Gaerdydd yn hwyr yn y gêm.
Hon oedd darbi cyntaf rheolwr Caerdydd Neil Harris, gyda phump o newidiadau yn y tîm wnaeth golli 6-1 i Queens Park Rangers.
Roedd y gôl-geidwad Neil Etheridge ymhlith y pump i golli eu lle.
O ran Abertawe hon oedd y gêm gyntaf i'r ymosodwr Rhian Brewster sydd ar fenthyg o Lerpwl.
Cafodd yr ymosodwr gerdyn melyn yn gynnar yn y gêm ar ôl tacl flêr ar Lee Tomlin.
Golyga'r canlyniad fod Abertawe yn codi i'r seithfed safle, a Chaerdydd i'r deuddegfed safle.
Dywedodd Neil Harris: "Roedd yr awyrgylch yn drydanol, fe wnes i ei fwynhau yn fawr.
"Roedd yn rhaid i ni ymateb ar ôl y gêm ddiwethaf yn erbyn QPR ac rwy'n falch iawn o beidio ildio unrhyw goliau."
Dywedodd Steve Cooper, rheolwr Abertawe: "Yn anffodus doedd yr ail hanner heb fynd fel byddwn i wedi ei ddymuno. Roedd o'n gêm fratiog, gyda lot o beli uchel.
Mae'n debyg fod pwynt yn well canlyniad iddyn nhw nag mae o i ni."