Canolfannau asesu anabledd yn 'amhosib i'w cyrraedd'

  • Cyhoeddwyd
Amy Watkins
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Amy Watkins y byddai'n peryglu ei diogelwch pe bai hi'n ceisio ymweld â rhai o'r canolfannau asesu

Mae rhai o'r adeiladau mae pobl anabl yng Nghymru yn gorfod mynd iddyn nhw i gael eu hasesu bron yn amhosib i bobl anabl eu cyrraedd, yn ôl ymgyrchwyr.

Mae gweithwyr y Prosiect Cyngor Anabledd (DAP) yn galw am "ailfeddwl sylfaenol" am leoliadau rhai o'r canolfannau asesu iechyd yng Nghymru.

Yn ôl y grŵp, mae rhai pobl anabl wedi colli allan ar filoedd o bunnoedd mewn budd-daliadau oherwydd y broblem.

Dywedodd yr Adran Gwaith a Phensiynau bod modd gwneud cais i gynnal asesiadau yn y cartref neu i hawlio costau teithio yn ôl.

'Anodd credu'

Mae'r asesiadau sy'n cael eu cynnal yn y canolfannau yn penderfynu a ydy pobl sydd ag anabledd neu salwch cronig yn gymwys am fudd-daliadau.

Ond mae'r DAP wedi beirniadu lleoliad y canolfannau yng Nghaerdydd, Abertawe, Pen-y-bont a Phontypridd yn benodol, ac maen nhw'n dweud bod pryder am leoliadau ar draws y wlad.

Dywedodd y grŵp fod anawsterau cyrraedd rhai canolfannau o'r meysydd parcio agosaf a bod llwybrau i mewn i'r adeilad yn rhy serth i gadeiriau olwyn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder y gallai cadeiriau olwyn fynd yn sownd yn lifft y ganolfan asesu yn Abertawe

Mae un ymgyrchydd wedi dweud wrth BBC Cymru y byddai'n peryglu ei diogelwch pe bai hi'n ceisio ymweld â rhai o'r canolfannau asesu.

Dywedodd Amy Watkins, 31 o Gwmbrân ac sy'n defnyddio cadair olwyn â modur oherwydd bod ganddi barlys yr ymennydd, bod y sefyllfa yn "anodd ei gredu".

Yn siarad am y ganolfan ym Mhontypridd dywedodd: "Fyddwn i ddim yn rhoi fy hun mewn perygl - byddai'n rhaid i mi wneud cais am leoliad arall neu ymweliad gartref.

"Dydw i ddim yn meddwl y byddai'n deg rhoi fy hun trwy'r pwysau a'r pryder o orfod mynd i mewn i adeilad rwy'n gwybod sydd ddim yn addas."

Dywedodd Tony Crowhurst o'r grŵp y dylai canolfannau fod "allan o ganol trefi mewn llefydd sydd â thrafnidiaeth gyhoeddus addas".

"Dydyn nhw ddim yn deall anghenion pobl anabl," meddai.

Diffyg cyngor

Does gan yr un o'r canolfannau yng Nghymru gyngor ynglŷn â sut y gall pobl anabl eu cyrraedd, er bod gan nifer o'u hymwelwyr broblemau iechyd, anableddau neu salwch cronig.

Mae modd gwneud cais am gael apwyntiadau gartref, ond mae rhai yn dweud eu bod wedi cael trafferth cael apwyntiad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau eu bod yn "cymryd ystyriaeth o anghenion unigolion wrth drefnu apwyntiadau".

"Mae modd hawlio costau trafnidiaeth i'r apwyntiadau ond os oes yna unrhyw un sydd ddim yn gallu teithio i ganolfan asesu mae modd iddyn nhw wneud cais am ymweliad yn y cartref," meddai.

Ychwanegodd eu bod yn gwneud penderfyniadau ar dystiolaeth ar bapur yn unig ble fo hynny'n bosib, gan beidio gorfodi pobl i ymweld â chanolfannau asesu.