Ystyried gwersi Mandarin mewn ysgolion i hybu proffil Cymru

  • Cyhoeddwyd
MandarinFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae bron i biliwn o bobl yn siarad Mandarin fel iaith gyntaf

Mae cynnal gwersi Mandarin ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru yn cael ei ystyried fel rhan o strategaeth newydd i geisio cynyddu proffil rhyngwladol Cymru.

Byddai'r cynllun yn rhan o weledigaeth hirdymor i sefydlu Cymru fel cyrchfan i ymwelwyr o China.

Mae strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnwys blwyddyn ar thema "Cymru yn Yr Almaen" yn 2021.

Gobaith y cynllun yw tyfu economi Cymru.

Ar hyn o bryd mae 60% o allforion Cymru'n mynd i'r Undeb Ewropeaidd, ac ar ôl Brexit mae'r llywodraeth eisiau "sicrhau fod yr Undeb Ewropeaidd yn parhau fel ein partner cryfaf".

Er hynny mae'n gobeithio datblygu marchnadoedd eraill hefyd, gyda'r nod o gynyddu allforion 5%.

Hybu ieithoedd lleiafrifol

Ymysg cynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu proffil y wlad a thyfu'r economi, mae:

  • Hyrwyddo Cymru fel gwlad i fynd ati am gyngor i ddatblygu ieithoedd lleiafrifol;

  • Gweithio gyda sefydliadau addysg i gynyddu nifer y myfyrwyr o dramor sy'n astudio yng Nghymru;

  • Gwthio i gael parhau yn rhan o gynllun Erasmus+ a Horizon 2020, ac unrhyw raglenni sy'n eu dilyn;

  • Hyrwyddo'r diwydiant diogelwch seibr a'r diwydiannau creadigol yng Nghymru - meysydd sydd â "gwytnwch yn erbyn Brexit".

Dywedodd y gweinidog sy'n gyfrifol am berthnasau tramor, Eluned Morgan ei bod yn awyddus i newid perthynas Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU er mwyn helpu gwerthu Cymru dramor.

Yn ôl Ms Morgan mae'r ddwy lywodraeth eisoes wedi bod yn cydweithio er mwyn penderfynu ar ardaloedd allweddol sydd angen eu hybu.