Penodi Victoria Davies yn Gomisiynydd Traffig Cymru

  • Cyhoeddwyd
Victoria DaviesFfynhonnell y llun, Llywodraeth Y DU
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Victoria Davies yn dechrau yn ei swydd newydd ym mis Chwefror

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau mai Victoria Davies fydd Comisiynydd Traffig newydd Cymru.

Ers 2010 bu'n gweithio fel uwch gyfreithiwr tîm trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, a chyn hynny roedd yn gweithio i wahanol adrannau'r Adran Drafnidiaeth am wyth mlynedd.

Wrth groesawu'r penodiad dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: "Rwy'n falch bod y Comisiynydd Traffig newydd yn ymroddi i barhau i wella ei sgiliau Cymraeg i sicrhau darpariaeth gwasanaeth dwyieithog i weithredwyr HGV a PSV yng Nghymru."

Ychwanegodd bod gwaith yn parhau gyda'r Adran Drafnidiaeth i "ddatblygu rôl a phresenoldeb Comisiynydd Traffig Cymru".

Cafodd rhagflaenydd Ms Davies, Nick Jones, ei feirniadu gan rai Aelodau Cynulliad yn 2018 am barhau i weithio o swyddfa yn Birmingham am ddwy flynedd ar ôl ei benodiad.

Rhannu amser rhwng y de a'r gogledd

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynwyr Traffig y DU: "Bydd Comisiynydd Traffig newydd Cymru'n rhannu ei hamser rhwng swyddfeydd yng Nghaerdydd ac yng Nghaernarfon, ble bydd ei staff cefnogaeth yn gweithio.

"Bydd hynny'n ei galluogi i glywed achosion yng ngogledd a de Cymru, ac i ymwneud â phartneriaid fel Llywodraeth Cymru."

Ychwanegodd y llefarydd bod dau weithiwr dwyieithog eisoes wedi'u penodi ar gyfer y swyddfa yng Nghaernarfon ac yn derbyn hyfforddiant ar hyn o bryd, ac mae bwriad i benodi trydydd aelod o staff.

Mae disgwyl i'r swyddfa gael ei hagor yn swyddogol yn y misoedd nesaf.