Comisiynydd Traffig 'ar fin' symud o Birmingham i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Nick Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna anfodlonrwydd bod Nick Jones yn parhau i weithio o Birmingham

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod Comisiynydd Traffig Cymru "ar fin" symud o'i swyddfa yn Birmingham i Gymru - dros ddwy flynedd wedi ei benodiad.

Bydd Nick Jones yn gweithio o swyddfa yng Nghaerdydd, a bydd tri swyddog cynorthwyol llawn amser yn cael eu penodi i roi gwasanaeth dwyieithog yn ardal Caernarfon.

Roedd ACau wedi beirniadu'r oedi o ran sefydlu swyddfa yng Nghymru, ac roedd un wedi dweud nad oedd swydd y Comisiynydd "yn addas i'w bwrpas".

Ond mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod creu'r swydd "eisoes wedi bod yn fuddiol" i gwmnïau bysus a chludiant, teithwyr ac awdurodau lleol.

Mae trafodaethau'n parhau ynghylch lleoliad a chost sefydlu'r swyddfa yn y gogledd.

Y DVLA (Driver and Vehicle Standards Agency) fydd yn gyfrifol am benodi a chyflogi'r swyddogion cynorthwyol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi gweithio'r agos gyda'r Comisiynydd Traffig Nick Jones i drefnu swyddfa newydd ar ei gyfer yng Nghaerdydd, sydd ar fin digwydd.

"Bydd gan y Comisiynydd adnoddau swyddfa a chyfarfod yn adeilad Trafnidiaeth i Gymru sy'n cael ei godi ym Mhontypridd, pan fydd hwnnw wedi ei gwblhau.

"Rydym hefyd yn gweithio gyda'r Comisiynydd i sicrhau eiddo addas yn ardal Caernarfon ar gyfer tri aelod o staff cymorth dwyieithog.

"Yn y cyfamser, mae sefydlu Comisiynydd Traffig llawn amser cyntaf Cymru eisoes wedi bod yn fuddiol i gwmnïau bysus a chludiant, teithwyr, awdurodau lleol a phobl eraill sydd â diddordeb yn y dulliau trafnidiaeth yma."