Achub pedwar o dân o floc o fflatiau yng Nghaernarfon

  • Cyhoeddwyd
Tan Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Y gred ydy bod sgwter y tu allan i'r fflatiau wedi cychwyn y tân

Cafodd pedwar o bobl eu hachub o dân mewn bloc o fflatiau yng Nghaernarfon nos Fawrth.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i fflatiau Plas Twthill yn ardal Twthill y dref am 23:52.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru chafodd neb anaf difrifol, ac mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i ddarganfod achos y tân.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod un person wedi cael triniaeth gan y gwasanaeth ambiwlans yn y fan a'r lle.

Ychwanegodd bod sgwter symudedd o flaen y fflatiau yn rhan o'r tân, ac nad oedd unrhyw fflamau tu fewn i'r adeilad.

Yn ôl y gwasanaeth tân mae difrod mwg yn yr adeilad, ond nad yw sylfeini'r adeilad ei hun wedi cael ei ddifrodi.

Fe gadarnhaodd Tai Gogledd Cymru eu bod yn gweithio i gefnogi ac adleoli rhai o'r trigolion tra bod asesiadau llawn yn cael eu cynnal o'r difrod i'r adeilad.

'Y lle'n fflamgoch'

Dywedodd David Davies, sy'n byw gyferbyn â Phlas Twthill, ei fod ar ei ffordd i'w wely pan welodd "olau mawr tu allan a sbïo trwy'r drws ffrynt ac o'dd y lle'n fflamgoch dros y ffordd".

"Rhaid fi dd'eud, o'dd y fire brigade yn briliant," meddai. "O'ddan nhw yma mewn rhyw ddau funud a rhoi'r tân allan dim lol, a neb 'di brifo dwi'm yn meddwl.

"Rhyw bedwar neu bump o bobl sy'n byw 'na i gyd dwi'n meddwl.

"O'dda nhw methu dod allan drwy'r ffrynt, felly ma'n rhaid bod nhw 'di gallu dod allan drwy'r drws cefn - y peth pwysica' ydy bod nhw'n saff.

"Tro cynta' erioed i fi weld rwbath fel hyn yn yr holl flynyddoedd dwi'n byw yma - mae'n stryd fach reit ddistaw fel arfer."