Prifysgol yn penodi Carwyn Jones yn Athro'r Gyfraith

  • Cyhoeddwyd
Carwyn JonesFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi penodi cyn Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn Athro'r Gyfraith.

Bydd yn ymuno ag Adran Y Gyfraith a Throseddeg y brifysgol yn rhan amser cyn rhoi'r gorau ar fod yn AC Pen-y-bont ar Ogwr ar ddiwedd y Cynulliad presennol yn 2021.

Dywed y brifysgol y bydd "yn cynnal darlithoedd ac yn cyfrannu at y drafodaeth ehangach ar gyfraith gyhoeddus a chyfansoddiadol" yn ei rôl newydd.

Dywedodd Mr Jones bod hi'n "anrhydedd fawr" i gael ei benodi i'r gadair ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn cyfnod "o newid mawr iawn yn hanes cyfraith gyfansoddiadol Cymraeg a Phrydeinig".

Ychwanegodd: "Mae gen i atgofion gwych o Aber fel myfyriwr ac mae'r Brifysgol yn agos iawn at fy nghalon.

Dywedodd Pennaeth yr Adran y Gyfraith a Throseddeg, Yr Athro Emyr Lewis y bydd y penodiad "yn cyfoethogi profiad dysgu ein myfyrwyr... ac yn cynnig mewnwelediad gwerthfawr i'r cyfansoddiad Prydeinig mewn cyfnod sydd â photensial o newid mawr".